Newyddion S4C

'Pennod newydd': Bwriad i ailstrwythuro CPD Dinas Bangor 1876

Nantporth

Fe fydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876 yn ail-strwythuro ar ôl i’r bwrdd gyhoeddi ei bwriad i drosglwyddo rheolaeth y clwb i’r cwmni sydd yn rheoli Stadiwm Dinas Bangor.

Mewn datganiad gan y Cadeirydd Glynne Roberts, fe wnaeth y clwb ddatgan bod y bwrdd yn bwriadu “sefyll i lawr” yng nghyfarfod Fforwm Cefnogwyr nos Fawrth.

“Mae’r bwrdd yn credu mai’r cam synhwyrol nesaf yn natblygiad y clwb yw rhoi cynnig i Stadiwm Dinas Bangor gymryd dros gyfrifoldeb llawn am dîm y dynion, cyn y tymor 2025/26,” meddai’r datganiad.

Yn ôl Mr Roberts, mae’r bwrdd yn teimlo eu bod wedi “mynd â’r clwb mor bell â’r oeddent yn gallu” ers sefydlu’r clwb newydd yn 2019 yn dilyn trafferthion Clwb Pêl-droed Dinas Bangor. Cafodd y clwb, a sefydlwyd yn 1876, ei ddiddymu fis Ionawr eleni.

“Yn 2019, y nod oedd diogelu dyfodol pêl-droed dynion yn y ddinas. Chwe blynedd yn ddiweddarach, ac mae’r nod yna wedi ei wireddu.”

Mae Clwb Pêl-droed Merched Bangor a Chlwb Pêl-droed Penrhosgarnedd, sydd hefyd yn chwarae yn y stadiwm, wedi dangos cefnogaeth i’r cynnig gan y bwrdd, gan gydnabod “y cyfle i uno holl dimau ar draws y ddinas dan un weledigaeth ar y cyd.”

Image
BCFC

Mae cadeirydd BCFC Ltd, y dyn busnes Nick Pritchard, sydd wedi buddsoddi dros £1 miliwn yn y stadiwm dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi rhoi addewid na fydd unrhyw ddyled yn cael ei godi yn erbyn y clwb na’r stadiwm yn y dyfodol.

Fe fydd cefnogwyr y clwb yn parhau ar fwrdd Bangor City FC Ltd, er mwyn “sicrhau fod gan gefnogwyr llais yn nhwf, cyfeiriad a hunaniaeth y clwb.”

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod yng nghyfarfod fforwm y cefnogwyr nos Fawrth.

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r clwb ddisgyn o’r ail adran y tymor diwethaf, i gynghrair Ardal Gogledd Orllewin Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.