Cyngor sir yn y gogledd yn penderfynu peidio â newid ffyrdd 20mya yn ôl i 30mya
Ni fydd unrhyw ffyrdd 20mya yn Sir Ddinbych yn newid yn ôl i fod yn ffyrdd â therfyn cyflymder 30mya.
Ym mis Medi 2023 fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru'r polisi terfyn cyflymder o 20mya gan effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.
Ond fe fuodd yna wrthwynebiad gan rai. Cafodd deiseb ei llofnodi gan bron 500,000 o bobl yn galw am wrthdroi’r cyfyngiadau.
Ym mis Ebrill 2024, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n adolygu’r cynllun.
Fel rhan o’r adolygiad, a gafodd ei gyflwyno gan yr ysgrifennydd trafnidiaeth Ken Skates, mae cynghorau ar draws Cymru wedi bod yn edrych ar dros 250 o ffyrdd a allai newid yn ôl o 20mya i 30mya.
Ond mae Cyngor Sir Ddinbych bellach wedi cyhoeddi na fyddai’r terfyn cyflymder yn newid yn ôl ar unrhyw ffyrdd 20mya yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod y cyngor “bellach mewn sefyllfa ble allwn ni gadarnhau does ‘na ddim cynlluniau i godi’r terfyn cyflymder eto i 30mya ar unrhyw ffyrdd yn Sir Ddinbych.”
'Dyw pobl ddim yn hapus'
Roedd y cyngor wedi derbyn dros 300 o geisiadau gan bobl oedd yn awyddus i’r terfyn cyflymder gael ei newid yn ôl, a hynny yn gysylltiedig â 202 o ffyrdd.
Ond “prin” oedd unrhyw gais o’r fath gan drigolion oedd yn byw ar un o’r ffyrdd dan sylw, meddai’r cyngor.
“Roedd bron pob un o’r ceisiadau wedi’u gwneud gan bobl sy’n teithio drwodd yn hytrach na byw yn yr ardal,” ychwanegodd.
Dywedodd cynghorydd Tremeirchion, Chris Evans, y dylai’r cyngor ystyried cyflwyno’r newidiadau yn debyg i gynghorau Wrecsam a Sir Y Fflint.
“I fi, mae angen newid. Dyw pobl ddim yn hapus,” meddai’r cynghorydd sy’n cynrychioli parti annibynnol.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y cyngor, y cynghorydd Brian Jones, ei fod yn “deall a pharchu’r” galw am ffyrdd 20mya y tu allan i lefydd fel ysgolion ac ysbytai.
Ond dywedodd y dylai rhai ffyrdd newid yn ôl er lles busnesau lleol a fydd yn colli arian yn y pen draw yn sgil oedi.
“Os ydych chi’n blymwr neu’n drydanwr yn teithio ar hyd Ffordd Russell yn Y Rhyl ac yn teithio 20mya, a’ch bod yn gwneud hynny bob dydd o’r wythnos, bydd hynny’n ychwanegu cryn dipyn o amser at eich taith.”
Dywedodd y cyngor eu bod yn diolch i bawb a gysylltodd ond doedd dim un o'r 202 ffordd wedi cyrraedd y trothwy er mwyn cael eu heithrio rhag y cynllun 20mya.