Wynne Evans yn cyhoeddi sioe radio newydd ar ôl gadael Radio Wales
Mae Wynne Evans wedi datgan ei fod yn dychwelyd i gyflwyno ei sioe radio ei hun.
Fis diwethaf, daeth cadarnhad na fyddai cytundeb cyflwyno Mr Evans, 53 oed, i ddarlledu ar BBC Radio Wales yn cael ei adnewyddu, ar ôl iddo ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing.
Roedd y canwr opera o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ar ôl cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr lle'r oedd modd clywed Mr Evans yn gwneud sylw amhriodol.
Bydd nawr yn cyflwyno rhaglen The Wynne Evans Show o wythnos nesaf, yn fyw rhwng 09.00 a 12.00 ar wefan wynneevansshow.com.
Dywedodd y darlledwr: “Mae’r sioe yma i fy nghymuned anhygoel – y Wynners – sydd wedi fy nghefnogi drwy bopeth.
“Ar ôl gymaint o negeseuon a galwadau i ofyn i mi ddod nôl, oeddwn i’n gwybod fod angen i mi wneud rhywbeth arbennig.
“Mae’r rhaglen yn ffordd i mi roi rhywbeth yn ôl – rhywle le allwn ni ddod at ein gilydd bob bore, chwerthin 'da’n gilydd, chwarae’r miwsig da ni’n ei garu a bod ein hunain. Mae’n fwy na sioe – mae’n deulu go iawn.”