Cyfraith Martha: Dim camau disgyblu i ddoctor wnaeth drin merch ar ôl damwain beic
Ni fydd doctor a wnaeth drin merch a ddatblygodd sepsis ar ôl damwain beic ger Eryri, yn wynebu camau disgyblu.
Fe wnaeth Martha Mills, 13 oed, farw o anaf i’w phancreas ar ôl llithro wrth reidio beic pan ar wyliau ar gyrion Eryri ym mis Gorffennaf 2021.
Ni wnaeth yr Athro Richard Thompson gyfeirio Martha Mills i'r uned gofal dwys er iddi ddangos sawl arwydd risg uchel o sepsis.
Dewisodd yr ymgynghorydd ar alwad hefyd beidio â dychwelyd i Ysbyty King’s College yn Llundain i’w hasesu’n bersonol wrth i’w chyflwr ddirywio ar Awst 29 2021.
Gwaethygodd ei hiechyd yn yr ysbyty ar Awst 30 a chafodd ei symud i'r uned gofal dwys cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain, lle y bu farw yn oriau mân Awst 31.
Fe wnaeth panel o Wasanaeth Tribiwnlys yr Ymarferwyr Meddygol (MPTS) a oedd yn eistedd ym Manceinion ddyfarnu ei fod wedi camymddwyn.
Dywedodd y tribiwnlys ei fod yn achos “difrifol iawn” ond fod yna “amgylchiadau eithriadol” a oedd yn cyfiawnhau peidio â chymryd camau pellach yn yr achos.
Wrth gyhoeddi ei gasgliadau ddydd Mercher, dywedodd cadeirydd y tribiwnlys Robin Ince: “Roedd Dr Thompson wedi gwneud popeth posibl i fynd i’r afael â’i fethiannau.
“Ystyriodd y tribiwnlys mai’r ffordd orau o wneud yn iawn am unrhyw niwed a achoswyd gan ei fethiannau fyddai iddo barhau i ddarparu ei arbenigedd gartref a thramor.
“Byddai atal yr Athro Thompson rhag ymarfer nawr – tua phedair blynedd ar ôl y digwyddiad – am un camgymeriad mewn gyrfa rhagorol, ym marn y tribiwnlys, yn fath o gosb.
“Nid dyna yw rôl yr MPTS.”
Dywedodd mam Martha, Merope Mills, golygydd yn The Guardian, ei bod hi a'i gŵr, Paul Laity, wedi codi pryderon bod iechyd Martha yn dirywio nifer o weithiau yn yr ysbyty.
Yn ddiweddarach, ymgyrchodd y cwpl yn llwyddiannus dros Reol Martha sy’n rhoi cyfle i gleifion, eu teuluoedd neu ofalwyr i ofyn am ail farn gan uwch feddyg yn yr un ysbyty.