Dyffryn Nantlle: Corff deifiwr wedi ei ddarganfod ar waelod pwll Chwarel Dorothea
Fe gafodd corff deifiwr 60 oed ei ddarganfod yn agos at waelod pwll 300 troedfedd o ddyfnder mewn chwarel yng Ngwynedd, clywodd agoriad cwest ddydd Mercher.
Agorodd a gohiriodd y crwner Kate Robertson yng Nghaernarfon gwest Tim Waples, o Stoat Close, Hertford yn nwyrain Lloegr.
Fe fuodd y peiriannydd TG farw ar Fai 31 yn y chwarel yn Nyffryn Nantlle.
Dywedodd y crwner ei fod wedi cael ei ddarganfod yn farw tua 85 metr (280 troedfedd) o dan y dŵr. Does dim cadarnhad eto beth achosodd ei farwolaeth.
“Mae’r cwest wedi’i ohirio er mwyn ymchwilio ymhellach,” meddai’r crwner.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru pan ddaethon nhw o hyd i’r corff: “Fe aeth yr heddlu i ardal chwarel Dorothea yng Nghaernarfon ar ôl adroddiad bod yna ddigwyddiad yn ymwneud â deifiwr.
“Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.
“Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.”
Mae mwy nag 20 o bobl wedi colli eu bywydau yn y chwarel ers i'r lle gau.