Trais am yr ail noson yng ngogledd Iwerddon
Mae trais wedi bod ar strydoedd Ballymena yng ngogledd Iwerddon a hynny am yr ail noson.
Cafodd bomiau petrol a thân gwyllt eu taflu at blismyn gyda swyddogion yn ymateb gyda batonau plastig a chanon dŵr.
Yn ystod y noson cafodd ceir a rhai cartrefi eu rhoi ar dân.
Daw hyn yn dilyn golygfeydd tebyg nos Lun.
Ddydd Llun, roedd protest heddychlon wedi bod er mwyn dangos cefnogaeth at ferch ifanc a oedd wedi dioddef ymosodiad rhyw honedig yn yr ardal.
Mae dau fachgen 14 oed wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o geisio treisio.
Fe gafodd y cyhuddiadau eu darllen i'r ddau fachgen trwy gyfieithydd yn yr iaith Rwmaneg.
Mae'r ddau yn gwadu'r cyhuddiad.
Roedd arwyddion wedi eu gosod tu allan i rai tai yn datgan cenedligrwydd y rhai tu mewn gydag un yn dweud ' Cartref Prydeinig' ac un arall yn dweud 'Mae Ffilipino yn byw yma'.
Mae'r heddlu wedi dweud bod y trais wedi ei ysgogi gan hiliaeth.
Mae'r Prif Weinidog a gwleidyddion yng ngogledd Iwerddon wedi condemnio'r golygfeydd.