Newyddion S4C

Cyrffyw yn Los Angeles wedi protestiadau a thrais

Protestiadau LA mis Mehefin 2025

Mae cyrffyw mewn grym ar gyfer rhannau o Los Angeles mewn ymateb i ddyddiau o drais.

Daw'r trais yn sgil protestiadau yn erbyn cyrchoedd ar fewnfudwyr heb ddogfennau.

Bydd y cyrffyw mewn grym o 20:00 i 06:00 amser LA.

Dywedodd Maer Los Angeles Karen Bass fod yna "ddifrod sylweddol" ar draws y ddinas.

Ychwanegodd fod disgwyl i'r cyrffyw fod mewn grym "am sawl diwrnod".

Daw'r protestio diweddar ar ôl i'r Arlywydd Trump gyhoeddi y byddai'n anfon 2,000 o filwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol i Galifornia i fynd i'r afael â'r aflonyddwch.

Fe ddechreuodd yr anghydfod ddydd Gwener diwethaf yng nghanol dinas Los Angeles.

Mae gwrthwynebwyr wedi bod yn protestio yn erbyn cyrchoedd ar fewnfudwyr heb ddogfennau gan weinyddiaeth Trump.

Fis diwethaf roedd y cyrchoedd yn bwriadu cadw hyd at 3,000 o bobl y dydd yn y ddalfa er mwyn eu prosesu.

Mae llywodraethwr Texas wedi defnyddio'r Gwarchodlu Cenedlaethol ar drothwy protestiadau sydd wedi eu cynllunio yn y dalaith.

Mae protestiadau wedi lledaenu ar draws y wlad, mewn o leiaf 10 o ddinasoedd gan gynnwys Efrog Newydd, Chicago a San Francisco.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.