Newyddion S4C

'Lle arbennig': Dynes o Fôn am greu gwefan a phodlediad i gefnogi pobl sydd â chanser

Elen Hughes

Mae dynes o Fôn am greu gwefan a phodlediad a fyddai’n cynnig cymorth i bobl a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ddiagnosis o ganser.

Fe dderbyniodd Elen Hughes, o Lanfairpwll, ddiagnosis o ganser y fron yn 37 oed, a hithau yn fam i dri o blant. 

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2015, a hithau yn 44 oed, cafodd hi ddiagnosis o ganser y fron gradd pedwar.

Mae hi wedi penderfynu creu gwefan a phodlediad a fyddai’n cefnogi pobl sydd yn byw â chanser yn ogystal â’r bobl sy’n eu cefnogi.

Bydd y wefan yn cynnwys copis o gyn-bodlediadau a gwybodaeth am wahanol gyflyrau yn ymwneud â sgil-effeithiau triniaethau canser.

"Mae 'na gymaint o bethau i navigateio drwyddo fo i ddod i le fedri di fod yn eitha' hapus i gyd-fyw efo canser yn lle meddwl bo chdi'n gorfod cwffio drwy'r adeg a bod yn ddewr, a gwybod be' i ddeud a sut i ymateb ac yn y blaen" meddai Elen wrth Newyddion S4C.

'Lle saff'

Mae Elen yn credu y bydd y wefan a’r podlediad yn help mawr, nid yn unig i bobl sydd â chanser, ond eu teulu, plant, eu ffrindiau a’u cyfoedion.

“'Da ni’n mynd i edrych ar be sy’n briodol wrth siarad am ganser a be sydd ddim cweit mor briodol,” meddai, "a sut fedra ni ddod a fo lawr i lefel fwy cronig yn hytrach na tabŵ".

Fe welodd Elen fod digon o adnoddau Saesneg pan gafodd hi'r diagnosis ond diffyg adnoddau Cymraeg i'r rhai oedd wedi eu heffeithio gan ganser.

"Dwi’n meddwl pan ti mewn sefyllfa lle mae dy fywyd di bron iawn ar y lein, ti’n dueddol o fod isho siarad yn dy famiaith," meddai.

"Dwi'n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl yn dueddol o fynd yn ôl i'r iaith maen nhw fwyaf cyfforddus efo hi."

"Achos mae dy frên di’n gweithio mor galad yn trio rhesymu efo bob dim sy'n mynd ymlaen, na'r peth dwytha' mae o angen ydi cyfieithu ar ben hynny."

Er bod gwasanaethau ar gael i gefnogi unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser, yn ôl Elen, mae’r neges yn aml yn wahanol.

“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi cael ein magu efo’r syniad ‘ma bod cemotherapi yn dy droi di mewn i gabajian efo headscarf a golwg sâl ofnadwy arna chdi, a bod chdi’n dy wely am chwe mis yn ofnadwy yn sâl.”

“Tydi o ddim yn hynny dim mwy,” meddai, “mae pethau yn newid - mae tirlun canser yn newid lot ar y funud.”

Dywedodd ei bod yn meddwl y bydd y wefan yn “le arbennig”, ac yn “le saff iawn”.

“Fydd hi’m yna i roi cyngor meddygol, achos dim dyna ‘di’r pwynt, ond mi fydd yn le i bobl rannu eu profiadau o ddelio efo’r canser a’r sgil-effeithiau sydd wedi dod o hynny.

“Peidio bod yn unig dim mwy ydi’r pwrpas, bod ‘na bobl allan yna sy’n deall a sydd ddim yn barnu ac yn gadael i chdi gyrraedd dy ddiweddglo dy hun yn ar dy siwrne."

'Ofnadwy o unig'

Mae Elen yn bwriadu cydweithio gyda’i ffrind, Nia, ar nifer o bodlediadau, ond ei bod am gadw’r rhannau am ei diagnosis gradd pedwar ar wahân.

Dywedodd fod gan y sgwrs sy’n ymwneud â chanser gradd pedwar eiriau sy’n gallu bod yn 'triggering', ac felly na ddylid defnyddio’r un termau ar gyfer canser o raddau gwahanol.

Rhannodd ei syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, a dywedodd Elen fod yr ymateb i’r syniad wedi bod yn “anhygoel”.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y fath ymateb o gwbl,” meddai.

Logo’r wefan fydd llun o’r goeden sydd ar lan Llyn Padarn yn Llanberis.

“Mae’r goeden yn cynrychioli sut oeddwn i’n teimlo ar y dechrau” meddai Elen.

Dywedodd fod ei bod wedi teimlo’n “ofnadwy o unig” pan gafodd ei diagnosis o gradd pedwar, ac ar ddechrau ei thaith â chanser.

“Y ffaith ‘mod i ‘di teimlo mor unig am mor hir, a mae’r goeden ar ben ei hun mewn dŵr ac mi fysa chdi’n disgwyl iddi bydru ac y bysa hi wedi marw… ond eto mae hi yna”.

Cwrdd â phobl

Mae byw gyda chanser wedi bod yn brofiad “cymunedol” i Elen ar rai adegau hefyd.

Fe wnaeth hi gyfarfod tair o ferched ar wefan yn America yn ymwneud â byw â chanser.

“Naethon ni ffeindio’n gilydd allan o’r cannoedd ar gannoedd o bobl ‘ma naw mlynadd yn ôl,” meddai.

“Ond yn anffodus, dwy ohonan ni sydd ar ôl erbyn hyn, a mae’n batrwm eitha cyffredin.

“Yn anffodus tydi pawb ddim yn cael byw am naw mlynadd arall”.

Mae Elen hefyd yn bwriadu rhannu patrwm gweu ar ei gwefan a fyddai’n annog pobl i weu capiau ar gyfer yr adran oncoleg yn eu hysbytai lleol.

“Weithiau mae jysd y teimlad o gael rhoi rhywbeth yn ôl yn golygu gymaint.

“Mae dy ben di’n mynd yn rili oer pan mae gen ti ganser, a dwi’n meddwl fysa adrannau oncoleg yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.