'Mwy mewn tlodi dwys nag erioed' yng Nghymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru "godi ei huchelgais" fel bod cannoedd ar filoedd o bobl ddim mewn tlodi dwys yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r ddogfen yn dweud bod mwy yn dioddef nag erioed o'r blaen.
Ychydig iawn o gynnydd sydd wedi ei wneud o ran lleihau tlodi yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf meddai'r dadansoddiad diweddaraf gan y Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree.
Maent yn dweud bod y broblem yn gwaethygu.
Roedd bron i hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi dwys yn 2020-23, gyda 310,000 o bobl mewn tlodi dwys iawn yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Sefydliad Bevan Dr Victoria Winckler: "Mae'n ofnadwy nad oes yna unrhyw gynnydd wedi bod wrth leihau tlodi yng Nghymru yn yr 20 mlynedd diwethaf.
"I wneud hyn yn waeth, mae mwy o bobl mewn tlodi dwys nag erioed o'r blaen, yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd, ac yn methu â gwresogi eu cartrefi, gan orfod bod yn ofalus o bob ceiniog."
Mae aelwydydd sydd 50% o dan yr incwm aelwyd cyfartalog yn cael eu diffinio fel rhai sy'n byw mewn tlodi dwys.
Mae aelwydydd sydd yn byw o dan 40% o'r incwm hyn yn cael eu diffinio fel rhai sy'n byw mewn tlodi dwys iawn.
Daeth yr adroddiad hefyd i'r casgliad mai plant oedd y grŵp oedd fwyaf tebygol i fod yn profi tlodi parhaus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi."
'Ofnadwy'
Yn ôl yr adroddiad, roedd un ymhob chwe phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi mewn o leiaf tair allan o'r pedair blynedd diwethaf.
Roedd 12% o bensiynwyr yn byw mewn tlodi ac 11% o oedolion mewn oed gwaith hefyd yn byw mewn tlodi.
Mae hefyd bwlch mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf breintiedig a di-freintiedig yng Nghymru.
Mae disgwyl i ferched yn yr ardaloedd mwyaf breintiedig fyw 6.3 blynedd yn hirach, a dynion 7.5 mlynedd yn hirach, na phobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyswllt Sefydliad Joseph Rowntree ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon Chris Birt: "Mae gan y Senedd bwerau sylweddol sy'n cyfrannu at wella safon byw pobl yng Nghymru. Mae gostwng costau, cysylltu cymunedau'n well, darparu tai fforddiadwy a chwalu rhwystrau i gyflogaeth i gyd yn bethau y gallant eu gwneud i leihau tlodi."
'Cyfnod heriol i lawer'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n cydnabod bod hwn yn gyfnod heriol i lawer o blant, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi a helpu'r rhai sydd angen cymorth fwyaf.
"Caiff ein hymrwymiad ei gefnogi gan fuddsoddiad sylweddol o bron i £7bn rhwng 2022-2026 i leihau costau a gwneud y mwyaf o incwm i deuluoedd Cymru."