Newyddion S4C

Abertawe: Prif ddinas dynion moel Cymru

Pen moel

Abertawe yw’r ddinas gyda’r nifer mwyaf o ddynion moel yng Nghymru, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r ddinas wedi dod yn bedwerydd yn y DU mewn astudiaeth o’r nifer o chwiliadau ar-lein gan ddynion am dermau sy’n gysylltiedig â mynd yn foel.

Ar gyfartaledd fe wnaeth dynion Abertawe chwilio ar-lein 274 o weithiau fesul 100,000 o bobl am dermau fel “sut i guddio llinell gwallt sy’n cilio” a “sut i atal colli gwallt”.

Wakefield yng ngogledd Lloegr yw’r ddinas sydd â’r mwyaf o ddynion moel yn y DU yn ôl yr ymchwil gyda 314 o chwiliadau misol cyfartalog fesul 100,000 o bobl.

Fe wnaeth cwmni arbenigol ddadansoddi’r data gan gymharu’r ffigyrau am y nifer oedd yn chwilio ar-lein fesul 100,000 o bobl.

Daw’r astudiaeth gan gwmni QR Code Generator ychydig cyn Sul y Tadau ar 15 Mehefin.

Dywedodd prif swyddog y cwmni Marc Porcar: "Gyda Sul y Tadau ar y gorwel, mae'r astudiaeth hon yn edrych ar un o'r profiadau mwyaf cyffredin ymhlith tadau: moelni. 

“Mae colli gwallt yn digwydd oherwydd llawer o bethau gwahanol, gan gynnwys straen, diet a ffordd o fyw, ond yn aml mae'n rhan naturiol o heneiddio.

"P'un a oes ganddyn nhw ben llawn gwallt, pen moel, neu unrhyw beth rhwng hynny, mae pob tad yn haeddu'r sylw ar Sul y Tadau."

Llun: Medical Daily

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.