Newyddion S4C

Prosiect i adfywio strydoedd mawr yn dod â lliw i drefi Môn

Caergybi

Bydd rhagor o drefi ar Ynys Môn yn cael tamaid o liw ar ôl dechrau llwyddiannus i gynllun sy’n gobeithio adfywio strydoedd mawr.

Mae’r elusen Môn CF wedi dechrau prosiect Awn i Baentio’r Dref, sydd wedi dod â lliw i’r Stryd Fawr a Stryd Williams yng Nghaergybi.

Mae contractwyr lleol wedi paentio adeiladau sawl busnes yn y dref, fel rhan o’r prosiect sy'n cael ei ariannu gan Y Gronfa Ffyniant Cyffredin drwy ddwylo Cyngor Sir Ynys Môn.

Wrth i’r cymal cyntaf agosáu at ei ddiwedd yng Nghaergybi, bydd ail gymal y prosiect yn symud i Langefni ac Amlwch, er mwyn ceisio denu rhagor o ymwelwyr a “rhoi hwb i’r economi leol”.

Dywedodd un o reolwyr Môn CF, Marcus Geurtjens: “’Da ni’n ceisio codi proffil canol trefi Ynys Môn, i wneud nhw yn fwy ffresh a thrio denu mwy o bobol i ganol y trefi a’u gwneud yn llefydd mwy deniadol i bobl ddod i ymweld. 

“Y gobaith ydi fydd hyn yn dod a masnach yn ôl i ganol trefi.”

Image
Caergybi
Stryd Williams, Caergybi (Lluniau: Môn CF)

Mae’n dweud bod yr adborth gan fusnesau ac ymwelwyr i’r gwaith wedi bod yn gadarnhaol hyd yma.

“Mae ymwelwyr wedi bod yn tynnu lluniau a deud pa mor lyfli mae’n edrych,” meddai.

“Mae’r ymateb wedi bod yn bositif iawn.

“Mae perchnogion y siopau a’r bobl sy’n rhedeg y busnesau yn hapus iawn i gael bach o gymorth a bach o help.

“Contractwyr lleol sydd yn gwneud y paentio a’r gwaith sgaffald, a chyflenwi’r paent, felly mi ydan ni’n rhannu’r gwaith ac mae yna fudd iddyn nhw hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.