Y gantores Jessie J yn dweud bod ganddi ganser y fron cynnar
Mae’r gantores Jessie J wedi dweud bod ganddi ganser y fron.
Mewn neges fideo ar Instagram mae’n dweud mai canser cynnar yw hwn.
Dywedodd Jessie J, sy’n 37 oed, ei bod yn bwriadu cael llawdriniaeth ar ôl perfformio mewn gŵyl yn Llundain yn ddiweddarach y mis yma.
“Dyw canser ddim yn neis mewn unrhyw ffurf ond dwi’n dal ymlaen i’r gair ‘cynnar’,” meddai yn y neges.
Ychwanegodd ei bod wedi ystyried a oedd hi eisiau sôn yn gyhoeddus am ei diagnosis. Ond ei bod wedi penderfynu bod yn “agored” am sawl rheswm.
“Yn gyntaf o achos yn hunanol dwi ddim yn siarad am hyn ddigon. Dwi ddim yn prosesu’r peth achos dwi’n gweithio mor galed.
Dwi hefyd yn gwybod bod rhannu yn y gorffennol wedi helpu fi gyda phobl eraill yn dangos cariad a chefnogaeth a hefyd yn rhannu eu straeon. Dwi’n berson agored.”
Dywedodd ei bod hi’n “torri ei chalon” bod yna bobl eraill yn “profi rhywbeth tebyg ac yn waeth”.
Mae’r seren bop sy’n fam i fachgen bach wedi cael problemau iechyd yn y gorffennol. Fe gafodd ddiagnosis o gyflwr ar y galon yn blentyn a chael strôc pan yn ei harddegau.
Llynedd fe ddywedodd hefyd ei bod wedi cael diagnosis o ADHD ac anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD).