Plentyn yn yr ysbyty ar ôl 'disgyn' o adeilad yn y Drenewydd
Mae plentyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn o adeilad yn y Drenewydd ym Mhowys.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Stryd Lydan yn y dref toc wedi 19.15 ddydd Gwener yn dilyn adroddiad bod plentyn wedi'i anafu.
Y gred yw bod y plentyn wedi disgyn o uchder oddi ar adeilad ar y stryd.
Nid yw ei anafiadau'n rhai all beryglu na newid bywyd.
Roedd swyddogion yr heddlu a pharafeddygon yn bresennol.
A dywedodd yr heddlu nad yw’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.