Newyddion S4C

Carcharu dynes o Fôn am fygu ac anafu plentyn

llys y goron caernarfon.png

Mae mam 42 oed o Sir Fôn wedi’i charcharu am 16 mis am fygu ac ymosod ar blentyn.

Wrth ei dedfrydu yn Yn Llys y Goron, Caernarfon, ddydd Llun, dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrth y ddynes: "Mae’n fygu parhaus yn fy marn i."

"Byddai’r plentyn wedi dychryn ac wedi bod yn drist."

Ychwanegodd ei fod yn “achos anarferol.”

"Dim ond oherwydd llythyr yr ysgrifennoch chi, y daeth hyn i’r amlwg. Pe na baech chi wedi dweud dim wrth eich cyn-bartner yn y llythyr hwnnw, ni fyddai unrhyw un wedi gwybod," meddai.

Roedd gan y ddynes euogfarn berthnasol flaenorol ond roedd ganddi anhwylder meddwl ac roedd yn edifarhau, ychwanegodd y Barnwr Petts.

Clywodd y llys ei  bod hi’n arfer gwylio Supernanny, rhaglen deledu am rieni sy'n cael trafferth gydag ymddygiad eu plant.

Dywedodd Suzanne Payne, ar ran yr amddiffyniad fod hwn yn "achos trasig o’r dechrau i’r diwedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.