Newyddion S4C

Rhybudd i fod yn ymwybodol o beryglon tanau mewn gerddi ar ôl tywydd sych

bbq

Mae yna rybudd i bobl fod yn ymwybodol o’r peryglon o danau yn eu gerddi mewn tywydd sych a chynnes.

Daw hyn wrth i Brydain gofnodi’r gwanwyn cynhesaf ar gofnod.

Yn ôl y cwmni yswiriant Aviva mae mwy o geisiadau wedi bod ar ôl tanau mewn gerddi ym mis Ebrill a Mai nag yn unrhyw fis yn 2024.

Maent yn dweud bod cais yswiriant sydd yn cynnwys tân mewn gardd yn costio £16,000 ar gyfartaledd.

Mae’r data sydd gan Aviva yn awgrymu y gallai’r cynnydd yn y bobl sydd yn mwynhau treulio amser yn eu gerddi fod yn un rheswm pam bod yna fwy wedi bod yn hawlio arian.

Yn ogystal mae ceisiadau o achos mellt sydd yn gallu cychwyn tân trwy daro to neu atig wedi cynyddu yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Gall mellt achosi i eitemau trydan dorri neu gael eu difrodi gan achosi tân yn y cartref. 

Ymhlith y ceisiadau y maen nhw wedi ymdrin â nhw mae ffensys, siediau a deciau yn cael eu dinistrio mewn coelcerthi yn yr ardd, cols (cinders) o farbeciw yn glanio ar sied ac yn cynnau’r sied a llwch o bydew tân yn achosi garej i fynd ar dân.

Yn ôl Hannah Davidson o Aviva mae angen i bobl fod yn wyliadwrus.

“Mae’r tywydd braf, yn ogystal â’r diffyg glaw yn golygu unwaith mae’n cychwyn gall tân ymledu yn gyflym - yn enwedig am fod y ddaear yn sych," medden nhw.

“Mae eitemau poblogaidd mewn gerddi, fel ffensys pren a siediau yn medru bod yn fflamadwy gan achosi i’r fflamau ymledu yn gyflym. 

"Gall tân bach yn yr ardd hefyd ledu i’r tŷ, gan achosi difrod sylweddol.”

Ymhlith yr argymhellion mae peidio cynnau coelcerth yn yr ardd, defnyddio barbeciw yn ofalus gan gadw golwg am wyntoedd cryfion a chadw poteli, drychau a phethau sydd yn gallu adlewyrchu i ffwrdd o’r haul. 

Llun: PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.