Newyddion S4C

Dyfodol ansicr i Gymro ym Mhrifysgol Harvard o achos rheolau mewnfudo Trump

Alfred Williamson

Mae myfyriwr o Gaerdydd sydd yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn yr UDA wedi dweud nad yw'n gwybod os bydd yn cael dychwelyd yno ar ddiwedd yr haf o ganlyniad i ymdrechion Donald Trump i gael gwared ar hawl y brifysgol i dderbyn myfyrwyr rhyngwladol.

Dywedodd Alfred Williamson nad yw’n gwybod beth fydd ei dynged, gan ddisgrifio ei sefyllfa fel “brwydr hir, galed”.

Dywedodd mewn cyfweliad gyda Times Radio: "Roedd hyn yn gwbl annisgwyl i'r gymuned ryngwladol - roedd yn broses gymhleth iawn i wneud cais am statws mewnfudo yno - mynd i lysgenhadaeth yr UDA, gwneud ein cyfweliadau yno, ond doeddwn i rioed yn meddwl y byddai unrhyw beth yr oeddwn yn ei ddweud yn gwneud gwahaniaeth. 

"Ac ar hyn o bryd does dim ots beth ydych yn ei ddweud - mae bob myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei effeithio gan hyn, os ydyn nhw wedi codi eu llais neu beidio, os ydyn nhw wedi bod yn rhan o brotest neu beidio. Does ganddo ddim i'w wneud gyda'r hyn yr ysych wedi ei ddweud. 

"Mae'n ymosodiad amlwg llwyr ar hawliau a rhyddid myfyrwyr tramor."

Pan ofynnwyd iddo am yr hyn yr oedd Harvard wedi ei ddweud wrtho am y posibilrwydd o ddychwelyd yno ar ôl gwyliau'r haf, dywedodd Mr Williamson:

"Mae Harvard wedi dweud y byddan nhw'n sefyll gyda ni, yn ymladd ar ein rhan ac rwy'n gwerthfawrogi hyn yn fawr - dyma dim ond y cyntaf o nifer o heriau, y cyntaf o rwystrau. Mae gweinyddiaeth Trump yn benderfynol, ac fe fyddan nhw'n parhau i ymosod ar Harvard ac ni fyddan nhw'n rhoi'r gorau iddi yn hawdd.

"Felly mae'n galonogol iawn i glywed eu bod ar ein hochr. O ran os allwn i gyd ddychwelyd? Ar hyn o bryd dydw i wir ddim yn gwybod. Mae'n mynd i fod yn frwydr hir ag anodd ac ar hyn o bryd mae'n teimlo fel profiad dad-ddyneiddio ('dehumanizing') ofnadwy - gorfod aros yma i'r Tŷ Gwyn gymryd ein hawliau i ffwrdd ohono ni, a'n rhyddid."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni aros i'r Tŷ Gwyn benderfynu ar drywydd llwybrau ein bywydau, ac nid yw hwnnw'n brofiad braf o gwbl i'r holl gymuned ryngwladol."

Llun: Alfred Williamson ar y chwith

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.