Hwyl fawr emosiynol wrth i Gary Lineker ffarwelio â Match Of The Day
Yn emosiynol, mae Gary Lineker wedi ffarwelio â gwylwyr Match Of The Day cyn iddo adael y stiwdio deledu am y tro olaf.
Dywedodd iddi fod yn "fraint" iddo gyflwyno'r rhaglen bêl-droed am 26 o flynedd.
Gadawodd y BBC yn gynt na'r disgwyl ar ôl i ffrae gorddi ar gyfryngau cymdeithasol wedi i'r cyflwynydd 64 oed rannu neges am Seioniaeth (Zionism).
Bythefnos yn ôl, ymddiheurodd "yn ddiamod" am rannu neges gan y Palestine Lobby ar ei gyfrif Instagram.
Fe wnaeth e ddileu'r neges yn ddiweddarach.
Roedd y neges yn cynnwys darlun o lygoden sydd yn hanesyddol yn cael ei hystyried yn ddelwedd all awgrymu gwrth-Semitiaeth.
Dywedodd y cyflwynydd nad oedd yn ymwybodol o symboliaeth y darlun pan ranodd y neges.
Cyflwynodd ei raglen Match Of The Day olaf gyda'r sylwebwyr Alan Shearer a Micah Richards nos Sul.
'Braint'
Yn ei neges wrth ffarwelio, dywedod Gary Lineker: “Yn go debyg i fy ngyrfa bêl-droed, fe wnaeth pawb arall y gwaith caled, ac fe ges i'r ganmoliaeth. Mae hi wedi bod yn fraint i gyflwyno Match Of The Day am chwarter canrif.”
Ychwanegodd bod y cyfnod hwnnw wedi bod yn un eithriadol o hapus.
Bydd Gabby Logan, Kelly Cates a Mark Chapman yn ymuno â'r rhaglen yn lle Gary Lineker, ac yn rhannu'r rôl gyflwyno.
Dymunodd yn dda iddyn nhw pan fyddan nhw'n "eistedd yn ei gadair."
Cyn ffarwelio am y tro olaf, dywedodd: “Ac mae fy niolch olaf i chi i gyd. Diolch am wylio, diolch am eich holl gariad a chefnogaeth dros y blynyddoedd. Mae wedi bod mor arbennig, ac mae'n ddrwg gen i fod eich tîm chi wastad yn olaf. Amser i ddweud hwyl fawr. Hwyl fawr!”
Collodd ddagrau ynghynt wrth wylio fideo yn cynnwys negeseuon gan ei gyd weithwyr dros y blynyddoedd, yn eu plith, Alan Shearer, Alan Hansen ac Ian Wright.
Roedd y fideo hefyd yn cynnwys capten Lerpwl Virgil Van Dijk a rheolwr Manchester City Pep Guardiola, cyn gyd-chwaraewyr fel Paul Gascoigne a Peter Shilton, yn ogystal â meibion Gary Lineker, George, Harry, Tobias ac Angus.
'Camgymeriad'
Wrth ymateb i'r newyddion bythefnos yn ôl y byddai Gary Lineket yn gadael y BBC yn fuan, dywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gorfforaeth: "Mae Gary wedi cydnabod y camgymeriad a wnaeth.
"Mae Gary wedi bod yn llais hollbwysig ym myd pêl-droed i’r BBC ers dros ddau ddegawd.
"Mae ei angerdd a’i wybodaeth wedi llunio ein newyddiaduraeth chwaraeon ac wedi ennill parch cefnogwyr chwaraeon iddo ledled y DU a thu hwnt.
"Rydym yn diolch iddo am y cyfraniad y mae wedi’i wneud."
Mae Gary Lineker wedi bod yn cyflwyno rhaglen Match of the Day ers 1999.
Cyhoeddodd y llynedd y byddai'n rhoi’r gorau i'w swydd ar ddiwedd y tymor, gan barhau i gyflwyno Cwpan y Byd a Chwpan yr FA.
Ond daeth ei ymadawiad yn gynt na'r digswyl yn sgil adroddiadau bod penaethiaid y BBC yn credu bod parhau i’w gyflogi yn "anghynaladwy".
Cafodd Lineker ei wahardd am gyfnod o’r BBC ym mis Mawrth 2023 ar ôl iddo feirniadu’r llywodraeth ar y pryd yn San Steffan am ei pholisi ynglŷn â cheiswyr lloches.
Roedd e hefyd yn un o 500 o bobl â phroffil uchel a arwyddoddd lythyr yn gofyn i’r BBC ail-ddarlledu rhaglen ddogfen Gaza: How To Survive A War Zone ar BBC iPlayer ym mis Chwefror.
Fe yw’r cyflwynydd oedd â'r gyflog uchaf yn y BBC.
Yn ôl adroddiad y gorfforaeth ym mis Gorffennaf yr amcangyfrif oedd ei fod wedi cael cyflog o £1.35 miliwn yn y flwyddyn 2023/24.
Llun: Match Of The Day