Arestio dyn ar ôl i dri o blant a'u mam farw mewn tân
Mae tri o blant a'u mam wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng ngogledd-orllewin Llundain.
Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y tân.
Cafodd swyddogion eu galw i gynorthwyo Brigâd Dân Llundain mewn eiddo yn Stonebridge, Brent, am tua 01.22 fore ddydd Sadwrn.
Bu farw dynes 43 oed a'u phlant, merch 15, bechgyn wyth a phedair oed, yn y fan a’r lle, meddai Heddlu'r Met.
Mae eu perthynas agosaf wedi cael gwybod.
Cafodd dau berson arall o'r un teulu, dynes yn ei 70au a merch yn ei harddegau, eu cludo i'r ysbyty gan Wasanaeth Ambiwlans Llundain ac nid yw eu cyflwr yn hysbys.
Cafodd dyn 41 oed ei arestio yn y fan a’r lle ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Allen, o dîm plismona lleol y Met yng ngogledd-orllewin Llundain: “Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o drasig ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd yn gysylltiedig.”
Dywedodd Maer Llundain Syr Sadiq Khan: “Mae hyn yn newyddion dinistriol ac mae fy meddyliau gyda theulu, ffrindiau a chymuned ehangach y pedwar o bobl sydd yn anffodus wedi colli eu bywydau.
“Rwy’n parhau i fod mewn cysylltiad agos â Brigâd Dân Llundain a Heddlu'r Met wrth iddynt weithio i sefydlu achos y tân a chynnig cefnogaeth i bawb yr effeithiwyd arnynt.”