Newyddion S4C

Cyhuddo aelod o Kneecap yn weithred 'wleidyddol' meddai’r band

Mo Chara o fand Kneecap

Mae Kneecap wedi dweud bod cyhuddo aelod o’r band o drosedd terfysgol yn weithred “wleidyddol” gyda’r bwriad o’u “tawelu” nhw.

Dywedodd Heddlu’r Met ddydd Mercher fod Liam O'Hanna, sydd yn perfformio o dan yr enw Mo Chara, wedi cael ei gyhuddo o arddangos baner sydd yn datgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig yn Llundain ym mis Tachwedd y llynedd. 

Cafodd Mr O'Hanna ei gyhuddo wedi ymchwiliad gan yr heddlu. Bydd y dyn 27 oed o Belfast yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster ar 18 Mehefin.

Mewn datganiad fore Iau ar X, dywedodd y grŵp: “Mae 14,000 o fabanod ar fin marw o newyn yn Gaza.

“Mae bwyd a anfonwyd gan y byd yn eistedd ar ochr arall wal, ac unwaith eto mae sefydliad Prydain yn canolbwyntio arnom ni.

“Rydym yn gwadu’r ‘drosedd’ hwn a byddwn yn amddiffyn ein hunain yn frwd. 

“Dyma blismona gwleidyddol. Dyma garnifal o dynnu sylw. Nid ni yw’r stori. Hil-laddiad yw’r stori.”

Ychwanegodd y band mai’r nod oedd “ein hatal ni rhag siarad gyda phobl ifanc” a “tawelu lleisiau” pobl oedd yn gwrthwynebu hil-laddiad.

Cafodd Liam O'Hanna ei gyhuddo o arddangos y faner yn yr O2 yng ngogledd Llundain ar 21 Tachwedd y llynedd.

Mae Hamas ac Hezbollah wedi eu gwahardd yn y DU ac mae eu cefnogi nhw'n gyhoeddus yn anghyfreithlon.

Dywedodd Heddlu'r Met bod y faner wedi ei harddangos "mewn modd neu o dan amgylchiadau o’r fath fel bod amheuaeth resymol ei fod yn gefnogwr i sefydliad sydd wedi ei wahardd".

Ychwanegodd y llu bod swyddogion gwrthderfysgaeth wedi dod yn ymwybodol o'r fideo ar 22 Ebrill a bod ymchwiliad wedi ei lansio yn sgil hynny.

Llun o Mo Chara gan Liam McBurney.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.