Newyddion S4C

Gwefan M&S i lawr yn dilyn ymosodiad seiber

M&S

Fe aeth gwefan Marks & Spencer i lawr i gwsmeriaid ddydd Iau wrth i'r cwmni geisio gwneud gwaith atgyweirio yn dilyn ymosodiad seiber. 

Roedd cwsmeriaid oedd yn ymweld â gwefan M&S fore Iau yn cael eu cyfarch â’r neges: "Mae’n ddrwg gennym ni allwch edrych ar y wefan ar hyn o bryd. Rydym yn gwneud rhai diweddariadau a byddwn yn ôl yn fuan."

O ganlyniad nid oes modd i gwsmeriaid ddefnyddio'r wefan am y tro.

Nid yw M&S wedi bod yn gallu cymryd unrhyw archebion ar eu gwefan ar ôl cael eu targedu gan hacwyr ar benwythnos y Pasg.

Cafodd manylion personol cwsmeriaid, gan gynnwys enwau, cyfeiriadau e-bost a dyddiadau geni, eu cymryd gan yr hacwyr.

Dywedodd y cwmni ddydd Mercher mai "camgymeriad dynol" oedd wedi achosi’r ymosodiad seiber.

Yr amcangyfrif yw bod M&S yn mynd i golli tua £300 miliwn o elw eleni o achos y digwyddiad.

Mae prif weithredwr y cwmni, Stuart Machin, wedi cadarnhau y gallai’r trafferthion barhau tan fis Gorffennaf.

Yn ôl rhai adroddiadau grŵp o hacwyr sydd yn gweithredu o dan yr enw Scattered Spiders sydd yn gyfrifol. 

'Hanfodol sicrhau diogelwch'

Dywedodd Robert Cottrill, cyfarwyddwr technoleg cwmni digidol ANS, ei bod yn "hollbwysig" i M&S gymryd ei amser i adfer y system yn iawn.

"Mae’n ymddangos bod M&S yn cymryd y camau priodol ac angenrheidiol ar ôl yr ymosodiad seiber, gyda ffocws tebygol ar adfer systemau craidd ac adennill data critigol," meddai.

"Mae’n bosibl iawn bod yr aflonyddwch estynedig o ganlyniad i’r ffaith bod yr hacwyr wedi targedu seilwaith allweddol, sy’n cymryd amser i’w asesu’n llawn, ei ddiogelu a’i adfer.

"O ystyried maint a chymhlethdod gweithrediadau M&S sy’n gysylltiedig yn fyd-eang, mae’r broses adfer yn ddealladwy drwyadl."

Ychwanegodd: "Mae’n hanfodol bod M&S yn blaenoriaethu adferiad diogel a chyflawn dros adferiad cyflym. 

"Gallai rhuthro i ddod â systemau yn ôl ar-lein heb sicrwydd llawn o’u cywirdeb beryglu y cwmni ymhellach.

"Nid yw sicrhau diogelwch cadarn ar bob lefel cyn ailddechrau yn beth synhwyrol yn unig - mae'n hanfodol."

Mae M&S wedi derbyn cais am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.