Perchennog AirBnB dadleuol yng Ngwynedd ‘yn herio’ gorchymyn cynllunio
Mae perchennog AirBnB dadleuol yng Ngwynedd wedi dweud ei fod yn herio gorchymyn i’w droi yn ôl o fod yn llety gwyliau.
Cafodd cais ôl-weithredol i drosi’r adeilad ym Mhenisarwaun yn llety gwyliau ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ym mis Rhagfyr.
Mae hynny'n golygu y gallai'r perchennog, Karl Jones, orfod tynnu ffenestr enfawr o'r adeilad.
Byddai hefyd yn golygu dychwelyd yr ysgubor i’w statws flaenorol fel “adeilad ategol” i’r prif dŷ.
Ond mae’r perchennog bellach wedi dweud ei fod yn y broses o herio'r gorchymun.
Roedd rhai o drigolion pentref Penisarwaun wedi cwyno am “ymwelwyr swnllyd yn chwarae cerddoriaeth uchel" a defnydd "swnllyd" o dwba poeth.
Ond mae’r perchennog wedi dweud nad oes sail i’r cwynion a’i fod hefyd wedi cyflwyno apêl yn erbyn gorchymyn Cyngor Gwynedd.
Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo ei fod wedi ei “ddiarddel” o’r gymuned yr oedd yn teimlo ei fod yn perthyn iddi.
‘Dathlu’
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn apêl ers y gorchymyn ym mis Rhagfyr 2024.
Mae gan Mr Jones hyd at 2 Hydref cyn gorfod cydymffurfio â chais y cyngor ond mae ganddo nes diwedd mis Mehefin, sef chwe mis ers y cais gwreiddiol, i apelio.
Dywedodd Mr Jones: “Cyflwynwyd hyn dros bedair wythnos yn ôl.
“Mae’r ysgubor yn parhau i gael ei defnyddio, gan nad ydym wedi derbyn unrhyw gyfarwyddyd i roi’r gorau i fasnachu.”
Ychwanegodd: “Rydw i wedi fy ngeni a fy magu yng Nghymru ac yn falch o gael byw yma a fy mwriad erioed oedd dathlu harddwch yr ardal hon a’n gwlad gyfan.
“Mae’n hynod ddigalon teimlo fy mod wedi cael fy niarddel gan y gymuned rwy’n perthyn iddi - dim ond oherwydd fy mod wedi ceisio creu dyfodol gwell i’m plant yn sgil yr heriau ariannol a ddaeth yn sgil y pandemig.”
Dywedodd ei fod o dan yr argraff ei fod wedi cael cymeradwyaethau i newid defnydd yr ysgubor a’i fod wedi ymddwyn mewn modd “didwyll”.
“Roeddwn ni’n credu bod y broses wedi’i chwblhau,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid oes unrhyw apêl wedi’i nodi mewn perthynas â’r cais cynllunio na’r hysbysiad gorfodi ar gyfer Plas Coch, Penisarwaun.”