Taith emosiynol Bronwen Lewis a'i brawd i'r Eurovision
Mae'r gantores Bronwen Lewis yn Y Swistir i wylio rownd derfynol Eurovision nos Sadwrn gyda'i brawd flwyddyn ar ôl iddo fod yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar gyfer canser.
Bydd ffeinal y gystadleuaeth ganu yn cael ei chynnal yn ninas Basel yn Y Swistir, gyda 26 o wledydd yn cystadlu.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd Bronwen Lewis: "Yr adeg hyn y llynedd roedd fy mrawd bach annwyl Ioan yn derbyn triniaeth cemotherapi ac yn gwylio Eurovision o'i wely yn yr ysbyty.
"Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae bellach yn rhydd o ganser ac rydym ni wedi dysgu mai dim ond unwaith rydych chi ar y blaned yma ac mae amser mor werthfawr felly cerwch allan a byw.
"Mor mor ddiolchgar o gael rhannu'r profiad yma gyda thi, cariad."
Y band Remember Monday sydd yn cynrychioli y Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth eleni, gyda'u cân What The Hell Just Happened.
Mae'n rhaid i ganeuon fod yn wreiddiol a ddim mwy na thri munud o hyd.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn fyw ar BBC One nos Sadwrn am 20:00 gyda Graham Norton yn cyflwyno.
Llun: Bronwen Lewis / Instagram