Penodi Kev Tame yn Brif Weithredwr newydd ar gwmni Sain
Mae Kev Tame wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd ar gwmni Sain.
Yn wreiddiol o Waunfawr, Gwynedd, mae wedi arwain sawl prosiect newydd yn Sain dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf a bellach mae’n ymgymryd â swydd barhaol.
Sefydlwyd Sain gan Dafydd Iwan a Huw Jones yn 1969.
Ers ymuno gyda Sain fel ymgynghorydd yn 2023 mae Kev Tame wedi canolbwyntio ar ddyfodol y cwmni gan arwain prosiect digido’r archif o filoedd o draciau o bob math o genres cerddorol.
Beganifs a Big Leaves
Magwyd Kev ychydig filltiroedd o Stiwdio Sain yn Llandwrog. Bu’n aelod o’r bandiau dylanwadol Beganîfs a Big Leaves a chyd-sefydlodd y prosiect electronig Acid Casuals. Mae’n parhau i arwain Oleia, cwmni ymgynghori creadigol sy’n gweithio ar nifer o brosiectau a digwyddiadau ym maes cerddoriaeth, gan gynnwys digwyddiad blynyddol Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.
Dywedodd Mr Tame: “Cychwynodd fy nghysylltiad gyda Sain pan gefais fynd ar brofiad gwaith i Ganolfan Sain yn Llandwrog yn 15 oed. Roeddwn i wedi dychmygu wythnos o fod yn y stiwdio yng nghmwni bandiau a cherddorion ond yn y storfa fues i yn pacio cd’s! Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach rhyddhawyd recordiau Big Leaves ar is-label Sain, Crai.
"Fel nifer o gerddorion eraill yng Nghymru, mae Sain wedi bod yn rhan bwysig o’r daith i mi, ac mae’n fraint cael parhau â gwaith y cwmni gyda Dafydd Iwan, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint ohonom.”
“Mae archif Sain yn drysor cenedlaethol sy’n haeddu ei diogelu a’i dathlu. Ond beth sy’n fy nghyffroi i ydi’r dyfodol: recordio a datblygu talent gerddorol newydd yng Nghymru a rhannu’r dalent honno gyda’r byd, datgloi cynnwys yr archif ac ymchwilio i’r posibiliadau sy’n deillio o hynny a chryfhau’r cydweithio gyda chymunedau creadigol yn lleol ac yn genedlaethol.”
'Cyfnod newydd cyffrous'
Dywedodd Dafydd Iwan: “Mae Sain wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd am 55 mlynedd, ac y mae hyn yn teimlo fel dechrau cyfnod newydd cyffrous. Dwi'n edrych ymlaen i weld Sain yn chwarae rhan flaenllaw yn nyfodol cerddoriaeth Cymru.”
Mae rhaglen gyhoeddi'r cwmni ar gyfer 2025/2026, yn cynnwys ail record y gyfres ‘Stafell Sbâr Sain’, cyfres o recordiau aml-gyfrannog, sy’n cynnwys artistiaid newydd a phrofiadol, gyda’r cynnwys wedi ei guradu gan bartneriaid creadigol a’r traciau wedi eu recordio yn Stiwdio Sain.
Bydd Sain hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth gan rai o enwau mawr y label a gan ambell artist newydd.
Prif lun gan Jon Pountney.