Caernarfon: Dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol a dyn arall wedi ei arestio ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaernarfon fore Mawrth.
Ychydig wedi 11:00 fore Mawrth, fe wnaeth y gwasnaethau brys ymateb i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4871.
Fe gafodd dyn ei gludo i'r ysbyty yn ddiweddarach gydag anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.
Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac bellach wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Dywedodd y Sarjant Katie Davies: "Dw i'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad ac sydd heb siarad â’r heddlu eto, i gysylltu â ni.
"Mae ymchwiliadau i'r gwrthdrawiad yn parhau a hoffwn annog unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu ein hymholiadau i gysylltu â'r heddlu."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C064663.