Ailgyfrif yn isetholiad Runcorn a Helsby - ond Reform yn hawlio buddugoliaeth
Fe allai plaid Reform UK fod ar fin trechu Llafur yn yr isetholiad cyntaf i blaid Syr Keir Starmer ei wynebu ers yr etholiad cyffredinol.
Mae ailgyfrif llawn yn cael ei gynnal yn isetholiad Runcorn a Helsby, gyda dim ond pedair pleidlais rhwng Reform a Llafur.
Dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage: “Mae Reform UK wedi ennill isetholiad Runcorn a Helsby o bedair pleidlais!
“Mae Llafur wedi mynnu ailgyfrif. Rydym yn hyderus iawn ein bod wedi ennill.”
Mae’n ddatblygiad dramatig mewn sedd yr oedd gan y blaid Lafur fwyafrif o 14,696 yn etholiad cyffredinol 2024.
Dros nos mae Reform wedi profi llwyddiant mewn ardaloedd eraill o Loegr yn yr etholiadau lleol yno.
Yn isetholiad Runcorn a Helsby, dywedodd y swyddog canlyniadau dros dro Stephen Young: “Oherwydd agosrwydd y pleidiau, rydym wedi cytuno i ailgyfrif yn llawn yr holl bapurau pleidleisio.”
Sbardunwyd is-etholiad Runcorn a Helsby pan roddodd y cyn AS Llafur Mike Amesbury y gorau iddi ar ôl cyfaddef iddo ddyrnu etholwr.
Mae canlyniad 2024 yn awgrymu y dylai fod yn sedd ddiogel i Lafur – enillodd Amesbury 53% o’r bleidlais – ond os yw’r ailgyfrif ynmynd o blaid Reform yna Sarah Pochin fydd yr Aelod Seneddol newydd.
Y ganran a bleidleisiodd yn y sedd oedd 46.33%, gyda 32,740 o bobl wedi pleidleisio.
Prif Lun: PA