Galw ar wledydd eraill yn y DU i ddilyn gwaharddiad taro plant Cymru
Mae comisiynwyr plant wedi galw ar wledydd eraill yn y DU sydd heb wneud hynny i ddilyn esiampl Cymru drwy wahardd taro plant.
Ers 21 Mawrth 2022 yng Nghymru mae pob math o gosbi corfforol i blant, fel taro ac ysgwyd, yn anghyfreithlon.
Fe wnaeth yr Alban gyflwyno gwaharddiad tebyg ym mis Tachwedd 2020.
Ond nid yw taro plant wedi'i wahardd yn llwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn ôl Deddf Plant 2004, mae’n anghyfreithlon i daro plant yno, gyda'r eithriad lle mae’n "gosb resymol".
Daeth galwadau o'r newydd am waharddiad llwyr ar draws y DU yn dilyn marwolaeth merch fach 10 oed, Sara Sharif, yn 2023.
Bu farw Sara ar 8 Awst 2023 ac roedd mwy na 25 o’i hesgyrn wedi torri.
Roedd Sara wedi dioddef llosgiadau a brathiadau dynol yn ystod cyfnod o gam-drin dros gyfnod o ddwy flynedd o leiaf.
Fe wnaeth ei thad, Urfan Sharif, honni i’r heddlu ar ôl ffoi ei fod "wedi cosbi ei ferch yn gyfreithlon" a’i fod "wedi ei churo hi’n ormodol".
Cafodd ef a llysfam Sara, Beinash Batool, eu dedfrydu i garchar am oes ym mis Rhagfyr 2024.
'Gwaddol Sara'
Dywedodd Comisiynydd Plant Lloegr, y Fonesig Rachel de Souza: "Mae geiriau tad Sara Sharif ei fod wedi 'cosbi’n gyfreithiol' nes iddi farw wedi fy syfrdanu.
"Gadewch i hyn fod yn waddol Sara, bod holl blant y DU yn cael yr un amddiffyniad ag unrhyw un arall."
Daw'r alwad wrth i’r Bil Lles Plant ac Ysgolion ddychwelyd i’r Senedd yn San Steffan ddydd Iau ar gyfer ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mewn datganiad, dywedodd y Fonesig Rachel ynghyd â chomisiynwyr plant gwledydd eraill y DU - Rocio Cifuentes dros Gymru, Nicola Killean dros yr Alban a Chris Quinn dros Ogledd Iwerddon - nad oes angen i rieni "cariadus" boeni am newid yn y gyfraith:
"Fel Comisiynwyr Plant rydym yn unedig yn ein barn fod unrhyw amddiffyniad yn y gyfraith sy’n caniatáu ymosodiad at ddiben cosbi plant yn gorfforol yn hen ffasiwn.
"Nid yw profiad Cymru a’r Alban, lle mae plant eisoes yn cael cynnig amddiffyniad llawn rhag ymosodiad a thrais, yn awgrymu unrhyw gynnydd yn nifer y rhieni a’r gofalwyr sy’n cael eu cyhuddo o droseddau.
"Nid oes gan unrhyw riant cariadus unrhyw beth i’w ofni os yw amddiffyn ymosodiad yn cael ei ddileu o’r gyfraith."
Yn gynharach eleni dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, Stephen Morgan, bod y Llywodraeth yn "edrych yn fanwl" ar newidiadau cyfreithiol a wnaed yng Nghymru a’r Alban ond nad oedd "unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddf ar hyn o bryd" ar gyfer Lloegr.
Dywedodd Mr Morgan fod Llywodraeth y DU eisiau "edrych ar y dystiolaeth" cyn cymryd "cam deddfwriaethol mor sylweddol".