Newyddion S4C

Kneecap yn ymddiheuro i deuluoedd ASau gafodd eu llofruddio

Aelodau o'r band Kneecap

Mae’r band rap o Belfast Kneecap wedi ymddiheuro i deuluoedd y gwleidyddion Jo Cox a Syr David Amess, a gafodd eu llofruddio.

Daw hyn ar ôl i fideo ddod i’r amlwg o gyngerdd yn 2023 lle mae’n ymddangos bod un aelod o’r band yn dweud "The only good Tory is a dead Tory...kill your local MP."

Mewn datganiad ar wefan X mae Liam Og O Hannaidh, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh yn dweud eu bod yn “gwrthod unrhyw awgrym y bydden ni yn annog trais yn erbyn unrhyw AS neu unigolyn. Byth."

Maent yn dweud bod y fideo wedi cael ei gymryd allan o’i gyd destun ac yn cael ei ddefnyddio i’w "hecsbloetio" ac fel “arf” yn eu herbyn.

Ond mae’r datganiad yn ychwanegu eu bod yn “anfon ymddiheuriadau o waelod calon” at deuluoedd Jo Cox a Syr David Amess.

“Doedden ni ddim yn bwriadu achosi loes i chi.” 

'Byth yn iawn' 

Fe fuodd Jo Cox farw yn 2016 ar ol cael ei saethu a’i thrywanu. Cafodd Syr David Amess ei ladd yn 2021.

Mae fideo arall wedi dod i’r golwg ble mae’n ymddangos bod un o aelodau'r band yn cyhoeddi "Up Hamas, up Hezbollah" o lwyfan.

Yn y Deyrnas Unedig mae’n anghyfreithlon i gefnogi Hamas ac Hezbollah.

Mae’r band yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi cefnogi Hamas neu Hezbollah.

“Rydyn ni yn condemnio unrhyw ymosodiad ar bobol. Wastad. Dydy o byth yn iawn. Rydyn ni yn gwybod hyn mwy na unrhyw un, gan ystyried hanes ein cenedl,” medden nhw mewn datganiad.

Mae Heddlu’r Met wedi dweud eu bod yn asesu’r ddau fideo er mwyn gweld os oes angen ymchwiliad pellach.

Galw ar i aelodau’r band gael eu herlyn mae arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch. Mae llefarydd ar gyfer Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer hefyd wedi beirniadu’r fideos.

Fe gafodd neges fer gan Kneecap ei chwarae yn ystod rali YesCymru ddydd Sadwrn. Fe ddywedodd trefnwyr y rali nad oedden nhw yn ymwybodol “o unrhyw ymchwiliad heddlu posibl yn ymwneud â'r grŵp cerddorol" ar y pryd.

Ond mae YesCymru wedi gwrthod y cyfle i ymbellhau oddi wrth y band. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.