Cyflwynydd teledu yn llewygu yn ystod Marathon Llundain
Roedd yn rhaid i gyflwynydd The Masked Singer gael cymorth meddygol yn ystod Marathon Llundain ddydd Sul.
Fe ddywedodd Joel Dommett ar ei gyfrif Instagram ei fod wedi llewygu ar ôl rhedeg 17 o filltiroedd.
“Dim y ras roeddwn ni wedi disgwyl. Fe wnes i lewygu yn ystod milltir 17 - dwi ddim yn cofio lot ond fe wnes i ddeffro mewn ambiwlans!”
Fe ddiolchodd i'r gweithwyr meddygol am edrych ar ei ôl.
Roedd Joel yn benderfynol ei fod eisiau gorffen y Marathon felly ar ôl ychydig o orffwys fe wnaeth o gario ymlaen i redeg.
Roedd yn rhedeg y ras er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen Brain Tumour Support sydd yn cefnogi teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gyda thiwmor ar yr ymennydd.
“Ar ôl ychydig o oriau roedd fy mhwls yn iawn ac fe wnes i ail gychwyn eto ond ar gyflymder gwahanol iawn. Er hynny fe ges i gyfle i gymryd bob dim i mewn. Dwi’n falch o fy hun mod i wedi llwyddo i orffen.”
Llun: @joeldommett/Instagram