Newyddion S4C

Cyhuddo dyn 30 oed o lofruddiaeth wedi ymosodiad Vancouver

Ymosodiad Vancouver

Mae dyn 30 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i gar gael ei yrru i mewn i dyrfa yn ninas Vancouver yng Nghanada.

Yn sgil yr ymosodiad nos Sadwrn fe fuodd 11 o bobl farw ac mae dwsinau eraill wedi eu hanafu.

Roedd Kai-Ji Adam Lo wedi gyrru i mewn i gerddwyr yng ngŵyl flynyddol Lapu Lapu, sy'n dathlu diwylliant Ffilipinaidd yn ne Vancouver.

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn disgwyl iddo wynebu fwy o gyhuddiadau o lofruddiaeth.

Roedd yn byw yn ninas Vancouver.

Er bod yr heddlu wedi dweud eu bod yn gwybod amdano yng nghynt dydyn nhw ddim yn credu mai ymosodiad terfysgol oedd hwn. Yn hytrach maent yn dweud fod ganddo hanes o broblemau iechyd meddwl.

Mae’r gwaith i adnabod rhai o’r dioddefwyr yn parhau. Mae eu hoed yn amrywio rhwng 5 a 65 oed.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl mae’r gymuned Ffilipinaidd yn galaru. Bydd yr effaith i'w deimlo am flynyddoedd i ddod medden nhw. 

Llun: Reuters

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.