Newyddion S4C

Athro o Dywyn i redeg Marathon Llundain dros ei frawd a gafodd ei barlysu

ITV Cymru

Athro o Dywyn i redeg Marathon Llundain dros ei frawd a gafodd ei barlysu

Bydd athro ymarfer corff o Ysgol Uwchradd Tywyn yn rhedeg Marathon Llundain dros ei frawd a gafodd ei barlysu mewn damwain car ym mis Awst 2022.

Mae Lloyd Hughes bellach wedi codi dros £4,500 i’r elusen Spinal Research.

Dyma’r tro cyntaf i Lloyd redeg marathon ac mae e wedi siarad am ei brofiad o baratoi i redeg y ras ar gyfer elusen sy’n ‘agos at ei galon’.

“Dwi ‘di joio fo, ar y cyfan,” meddai.

“Ond weithiau, pan mae’n hamro efo glaw neu os ydy hi’n freezing tu allan, mae’r isio yna i fynd allan yn anodd.”

Fe gafodd Harri, oedd yn 20 oed ar y pryd, ei barlysu o'i ganol i lawr wrth eistedd yn y sedd gefn mewn car a oedd yn cludo chwaraewyr o Glwb Pêl-droed Abermaw a Dyffryn.

Fe wnaeth y car wrthdaro â choeden ar y ffordd adref o gêm oddi cartref.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke lle treuliodd y tri mis nesaf yn gwella cyn cael ei drosglwyddo i ganolfan arbenigol am ddau fis arall o therapi dwys.

Dywedodd Lloyd Hughes nad oedd yr her gorfforol yn cymharu â'r hyn oedd ei frawd wedi ei wynebu.

Ac nid dim ond yn gorfforol oedd angen paratoi ar gyfer y marathon, ond yn feddyliol hefyd.

“Swn i’n meddwl neith fy mhen isio rhoi i fyny cyn dim byd,” meddai.

“Ond dwi’n meddwl os fyddai’n cario’r pen i fynd, byddai’n hollol iawn.

“Os dwi’n cofio’r rhesymau pam neshi gychwyn, dwi’n siŵr fyddai’n hollol fine ar y diwrnod.”

Llun: Lloyd Hughes a'i frawd Harri ar y dde, a'u brodyr eraill Aidan ac Ellis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.