
Dinas Diwylliant: Murluniau newydd i ddathlu hanes Wrecsam
Mae artistiaid wedi bod yn dylunio murluniau ar waliau yn Wrecsam gyda’r gobaith o ennill statws ‘Dinas Diwylliant y DU’.
Mae Wrecsam yn bwriadu gwneud cais arall i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, yn dilyn y siom o gael gwybod yn 2022 nad y nhw fyddai yn cael y teitl ar gyfer 2025.
Unwaith bob pedair blynedd mae ardal yn derbyn y statws, gyda'r cais llwyddiannus ar gyfer 2029 yn olynu Bradford, Dinas Diwylliant 2025.
Pwrpas y statws ydy adfywio’r ardal trwy gynnal dathliadau diwylliannol dros gyfnod o flwyddyn.
Mae Liam Stokes-Massey yn un o’r artistiaid sydd wrthi’n dylunio’r murlun coch tu allan i Tŷ Pawb.
“Dyna harddwch murluniau; mae ganddyn nhw’r gallu i drawsnewid gofodau yn ogystal â dod â balchder i’r gymuned,” meddai Liam.

Artist arall sydd wedi bod yn brysur yn dylunio ydy Rhi Moxon.
“Roeddwn i’n gweld pobl yn dod lan [o’r cylchfan] i edrych ar fy ngwaith, ac yn dweud; ‘O! Ma’ fe wedi gorffen!’ Ac yn edmygu’r gwaith.”
Nid dim ond y murluniau yma sy’n helpu Wrecsam â’i chais i ennill statws Dinas Diwylliant.
Yn ôl Morgan Thomas, Cydlynydd Cynnig Dinas Diwylliant Wrecsam 2029, mae llwyddiant clwb pêl-droed yr ardal wedi ‘arwain y ffordd’ i’r prosiectau eraill.
“Mae’n teimlo fel bod gan Wrecsam siawns go-iawn y tro yma," meddai.
“Ein slogan ni llynedd oedd, ‘Codwn Gyda’n Gilydd’, sydd byth wedi teimlo mor wir.”