Newyddion S4C

Athletwraig traws yn teimlo fel ‘targed’ wedi dyfarniad y Goruchaf Lys

ITV Cymru
Emily Bridges

Emily Bridges, sydd yn wreiddiol o Gymru, yw un o athletwyr traws mwyaf adnabyddus Prydain.

Dywedodd hi fod y dyfarniad gan y Goruchaf Lys ar rywedd wedi gwneud menywod traws yn “darged” i gasineb dros eu rhywedd.

“Chi’n mynd allan o’r tŷ yn meddwl ‘ai dyma’r diwrnod mae rhywun yn mynd i weiddi arnaf, ymosod arnaf?" meddai.

“Ar y foment, efallai bod y sefyllfa yn ddwys, ond dyna’r realiti bob amser i berson traws ac mae wedi bod erioed.”

“Mynegi barn gas”

“Mae pobl nawr yn teimlo'n fwy cyfforddus i fod yn gas gyda’u barn.. nid dim ond am bobl drawsrywiol ond am bobl o liw, mewnfudwyr, lleiafrifoedd crefyddol ac mae cynnydd wedi bod mewn pethau cas am rywiaeth," ychwanegodd.

“Ni fyddai’r pethau sy’n cael eu dweud nawr byth wedi cael eu dweud ddeng mlynedd yn ôl. Doedd neb yn poeni amdanom ni ddeng mlynedd yn ôl. Nid yw’r cyhoedd yn poeni amdanom, maen nhw’n wir yn poeni am allu talu’r rhent neu roi bwyd ar y bwrdd.”

“Dwi’n mynd i ddefnyddio’r toiled benywaidd”

Dywedodd Emily Bridges, er gwaethaf y dyfarniad, y bydd hi’n parhau i ddefnyddio gofodau benywaidd yn unig. 

“Dwi’n cael fy ystyried yn fenyw ar y stryd, yn cael fy nghyfarch â ‘Miss’, dwi’n cael fy ystyried yn fenyw, dwi’n mynd i ddefnyddio ystafell newid i fenywod, dwi’n mynd i ddefnyddio’r toiled benywaidd," meddai.

"Dwi’n deall os ydych chi’n gweld rhywun chi'n meddwl sy'n draws a bod gennych chi farn benodol, ond sut ydych chi'n gwybod pwy sy'n draws?

“Mae plismona toiledau wedi bod yn digwydd; os nad oes croeso i chi mewn toiled bydden nhw’n gofyn i chi adael. Dyna sut mae'n gweithio." 

Mae Ms Bridges yn meddwl nad oes dim ffordd arall o amgylch hyn: “Yn bendant, nid toiledau dynion, toiledau merched, na thoiledau traws a phobl anabl yw’r ateb," meddai.

"Nid gwahanu yw’r ffordd ymlaen. Mae’n ein gorfodi ni mewn i ofodau arall ac allan o fywyd cyhoeddus.”

Image
Emily Bridges
Emily Bridges yn seiclo yn y rhaglen ddogfen newydd ar ITV Cymru.

Cyn i Ms Bridges roi’r gorau i seiclo cystadleuol, pan newidiodd y gamp ei pholisi cymhwyster rhywedd, roedd ganddi freuddwydion o gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd ym Mharis.

Fe gymerodd hi ran mewn ymchwil ym Mhrifysgol Loughborough ar yr effaith ar berfformiad athletwr benywaidd traws pan mae ei lefelau testosteron wedi'u hatal.

Nid yw'r ymchwil hwnnw wedi'i gyhoeddi eto ond dywedodd Ms Bridges, pan fydd e’n cael ei gyhoeddi, y bydd yn dangos bod unrhyw fanteision cynhenid o fynd trwy'r glasoed gwrywaidd yn cael eu diddymu.

Ychwanegodd: “Chi'n mynd trwy fywyd o ddydd i ddydd fel menyw, mae gyda chi ‘menyw’ ar eich pasbort ond yna, os ydych chi eisiau gwneud chwaraeon, mae'n rhaid i chi gystadlu yn y categori agored, sy’n eich gadael chi yn fregus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.