Carchar y Parc yn methu delio â chyflenwad 'brawychus' o gyffuriau medd adroddiad
Nid yw Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gallu delio â chyflenwad "brawychus" o gyffuriau sydd wedi arwain at farwolaethau nifer o garcharorion, medd adroddiad.
Cafodd archwiliad ei gynnal i'r carchar ym mis Ionawr eleni.
Mae'r adroddiad damniol gan Arolygiaeth Carchardai EM wedi canfod bod cyffuriau ar gael yn hawdd ac yn cael eu dosbarthu i ystafelloedd carcharorion trwy ddefnyddio dronau.
Dywedodd bron i 60% o garcharorion bod cael gafael ar gyffuriau yn y carchar yn hawdd, yn ôl yr adroddiad.
Mae 17 o garcharorion wedi marw yn y carchar yn 2024, mwy nag unrhyw garchar arall yn y DU.
Mae Carchar y Parc yn dweud bod "gwelliannau sylweddol" wedi cael eu gwneud ers hynny.
Y llynedd cafodd cyffuriau eu darganfod ar 900 achlysur yn y carchar.
Roedd 1,700 o garcharorion yng Ngharchar y Parc ar adeg yr archwiliad, gyda thua 225 o garcharorion newydd yn cyrraedd pob mis.
'Lefelau uchel o drais'
Dywedodd y Prif Arolygydd Carchardai, Charlie Taylor, bod nifer o newidiadau i dîm rheoli'r carchar wrth wraidd llawer o'u problemau.
Fe wnaeth Janet Wallsgrove, y cyfarwyddwr "uchel ei pharch", adael ym mis Awst 2023 ar ôl 17 mlynedd, ac fe gafodd ei holynu gan gyfarwyddwr dros dro, a oedd yn y swydd am lai na blwyddyn.
Nid oedd y cyfarwyddwr dros dro newydd a'r rheolwyr "yn gallu mynd i'r afael â'r problemau yr oedden nhw'n eu hwynebu", meddai'r adroddiad.
Fe wnaeth archwilwyr ganfod er bod lefelau trais yn y carchar wedi gostwng ar y cyfan, mae achosion o drais yn parhau'n uchel.
Dywedodd carcharorion wrth yr arolygwyr bod hynny oherwydd rhwystredigaeth gyda chysondeb yn eu diwrnod arferol, cyfnodau hir dan glo, cyffuriau a nad oeddent yn derbyn digon o fwyd.
Ychwanegodd 57% o garcharorion ei bod hi'n hawdd cael mynediad at gyffuriau, a bod 34% ohonynt bellach gyda phroblemau alcohol neu gyffuriau ers cyrraedd y carchar.
Bwlio
Roedd lefelau hunan-niweidio wedi codi 58% yn y carchar hefyd.
Yn ogystal, yn ôl yr arolwg o garcharorion:
• Roedd 54% wedi teimlo'n anniogel yn ystod eu hamser yn y carchar, sy'n waeth na charchardai tebyg;
• Cafodd 41% eu bwlio neu eu targedu gan garcharorion eraill;
• Cafodd 44% eu bwlio gan staff.
Ym mis Mehefin 2024, cafodd Will Styles ei benodi'n gyfarwyddwr newydd ar y carchar.
Dywedodd prif arolygydd Arolygiaeth Carchardai EM, Charlie Taylor bod y carchar yn dechrau dychwelyd i'r safon ddisgwyliedig dan ei arweinyddiaeth.
"Os ydy'r cyfarwyddwr presennol yn parhau yn y swydd ac yn derbyn y gefnogaeth mae angen, yna mae modd bod yn optimistaidd bod arwyddion cynnar o welliant yn y carchar," meddai.