Newyddion S4C

Cyhuddo tri o ddynladdiad wedi marwolaeth menyw ar gwrs golff

Suzanne Cherry

Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o ddynladdiad wedi marwolaeth dynes a gafodd ei lladd mewn clwb golff, gan fan a oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu.  

Bu farw Suzanne Cherry, 62 oed o Aldridge, yn yr ysbyty ddydd Mawrth diwethaf, ar ôl cael ei tharo gan fan ar gwrs golff Aston Wood yng nghanolbarth Lloegr am 10.25,  ddydd Gwener 11 Ebrill.

Yn ôl yr heddlu yno, mae John McDonald, 51 oed o Bloxwich, wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, ymosod, a methu â stopio cerbyd pan gafodd gais gan yr heddlu 

Mae Johnny McDonald, 22 oed o Dudley, a Brett Delaney, 34 oed o Darlaston, Walsall, hefyd wedi eu cyhuddo o ddynladdiad.  

Roedd dau gar patrôl wedi dechrau yn dilyn y fan Nissan lwyd yn Kingstanding, Birmingham, ar ôl derbyn adroddiadau o weithgarwch amheus, yn ôl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Rhoddodd yr heddlu y gorau i ddilyn y fan pan aeth oddi ar y ffordd ac i fyny clawdd yng Nghlwb Golff Aston Wood, cyn taro Mrs Cherry.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn ne Cymru ddydd Gwener mewn cysylltiad â'r achos.   

Yn ôl yr heddlu, mae tri dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'u hymchwiliad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.  

Teyrnged

Wrth roi teyrnged iddi ddydd Sul, dywedodd gŵr Suzanne Cherry bod y digwyddiad yn gadael “gwagle na ellir ei lenwi” ym mywydau ei theulu a’i ffrindiau.

Ychwanegodd ei gŵr, na chafodd ei enwi, mewn datganiad: “Wrth fwynhau’r hyn a ddylai fod wedi bod y mwyaf diogel o un o weithgareddau niferus Suzanne, gwyliais mewn arswyd diymadferth wrth i fywyd fy ngwraig brydferth a’n dyfodol gyda’n gilydd gael ei gipio i ffwrdd mewn amrantiad.

“Roedd gan Suzanne awch anhygoel a heintus am fywyd a gyffyrddodd pawb a oedd yn ddigon ffodus i'w hadnabod.

“Roedd hi’n anhunanol, bob amser yn barod i annog gyda chariad a chefnogi’r rhai o’i chwmpas i gyflawni mwy nag yr oedden nhw eu hunain yn meddwl oedd yn bosibl."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.