Tywysog Andrew'n ymddangos gyda'r Brenin a'r Frenhines yng ngwasanaeth Sul y Pasg
Mae’r Brenin a’r Frenhines wedi mynychu gwasanaeth Sul y Pasg yng Nghastell Windsor ddydd Sul.
Fe wnaeth y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla ymuno ag aelodau eraill o'r teulu brenhinol ar gyfer y gwasanaeth Pasg blynyddol yng Nghapel San Siôr.
Nid yw Tywysog a Thywysoges Cymru wedi mynychu'r gwasanaeth eleni, gan eu bod yn treulio'r penwythnos gyda'u plant yn Norfolk.
Ond roedd y Tywysog Andrew, Dug Efrog yno gyda'i gyn-wraig Sarah, Duges Efrog.
Fe aeth y Tywysog Andrew i mewn i’r capel yn gyflym o flaen ei chwaer y Dywysoges Anne, cyn dod yn ôl allan wrth i'r Brenin a'r Frenhines gyrraedd.
Nid yw'r dug wedi cael ei weld mewn digwyddiad cyhoeddus y teulu brenhinol ers y Pasg diwethaf.
Fe wnaeth ddiflannu o fywyd cyhoeddus ar ôl camu i lawr o'i ddyletswyddau swyddogol.
Roedd hynny'n dilyn beirniadaeth am ei gyfeillgarwch â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.