
'Mae pawb yn haeddu enw': Dod o hyd i fedd dyn o longddrylliad y Lusitania
Mae hanesydd o Wynedd wedi dod o hyd i fedd dyn o longddrylliad yn ne Cymru.
Mae Ifan Pleming o Lithfaen wedi darganfod lleoliad bedd dyn di-enw o longddrylliad y Lusitania mewn mynwent yn y Barri.
Fe wnaeth llong stêm y Lusitania adael Efrog Newydd am Lerpwl yn 1915, ond methodd â chyflawni ei thaith.
Fe gafodd y llong ei suddo gan long danfor o'r Almaen oddi ar arfordir de Iwerddon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu farw dros 1,000 o bobl oedd ar fwrdd y llong yn y digwyddiad.
Fe ddaeth dau gorff o'r llongddrylliad i'r Barri a chafodd un ei gladdu mewn bedd di-enw heb garreg ym Mynwent Merthyr Dyfan.
Drwy ei waith ymchwil, mae Mr Pleming wedi dod o hyd i leoliad y bedd a sicrhau bod carreg arni.
Ond mae'n dal ati i geisio dod o hyd i enw'r corff a gafodd ei gofrestru fel 'Mr Unknown'.

'Pawb yn haeddu enw'
Wrth siarad ar raglen Cynefin ar S4C nos Sul, dywedodd Mr Pleming fod "pawb yn haeddu enw".
"Dwi’n eitha balch o be' dwi 'di allu neud hyd yn hyn," meddai.
"Mae pawb yn haeddu enw ac mae ganddo fo enw - mae jyst yn fater o ffeindio’r enw.
"Wedyn gawn ni weld be ddaw."

Yn ôl cofnodion, roedd y dyn rhwng 20 a 30 oed pan gafodd ei gorff ei ddarganfod.
Roedd ganddo wallt brown a mwstash coch, ac roedd yn gwisgo crys o Glasgow a gwregys o Efrog Newydd.
Fe gafodd corff ail berson ei adnabod fel dynes o'r enw Catherine E Willey o Chicago a'i hanfon yn ôl i America.