Newyddion S4C

'Angen gwneud mwy' i fynd i'r afael ag agweddau atgas tuag at ferched

Newyddion S4C 17/04/2025
Adolescence

Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag agweddau atgas tuag at ferched yng Nghymru, yn ôl cyn-ymgynghorydd addysg Llywodraeth Cymru. 

Fe ddaw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd a rhai awdurdodau addysg yma  yng Nghymru annog ysgolion i ddangos y gyfres deledu Adolescence, sydd wedi sbarduno sgwrs genedlaethol am sut mae rhai bechgyn a dynion ifanc yn siarad am ferched.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n cydnabod y materion "pwysig, pryderus" sy'n cael eu codi yn Adolescence, ac yn “croesawu'r drafodaeth”. 

Mae Newyddion S4C wedi clywed gan un rhiant sydd wedi gweld negeseuon mysogonistaidd ar ffôn ei mab.

“O’n i’n meddwl bo’ ni’n teulu lle oedd o’n gwybod bod misogyny yn wrong,”  yn ôl mam sydd am aros yn ddienw.  

“Ma’ mab fi yn group chat ar Whattsapp efo plant dosbarth fo yn Ysgol ac oedd ‘na neges lle oedd hogan ‘di gofyn cwestiwn digon syml yn y group chat a wedyn oedd plentyn ‘di ateb ‘nol yn deud, “Women, since when do you have a choice?”

“A wedyn tri o hogia arall ‘di licio hwnna wedyn a ti’n gweld fa’na wedyn sut mae’n gallu developeio i fod yn rhywbeth mwy am bo’ nhw’n meddwl bo’ nhw’n ffyni.”

Iaith gudd

Mae’r gyfres yn codi’r llen ar iaith gudd sy’n cael ei defnyddio drwy liwiau ac emojis mewn sgyrsiau, yn benodol gan Gen Z a’r Gen Alpha.

“Mae’n rili pwysig i rhieni i checkio ffôns plant nhw. Ond hefyd ma’ nhw’n gwybod am yr emojis yma a ‘wan yn monitro ffôns plant nhw a pryd mae’n geiriau mae’n hawdd i wybod be’ ma’ nhw’n sôn am” meddai'r fam.

“Os dio jyst yn emojis, ‘sa gweld dot coch ddim yn canu alarm bells i rhiant heb gwybod am yr emojis ‘ma sy’n cael eu defnyddio.”

Mae‘r gyfres bellach ar gael am ddim i ysgolion ar draws Prydain, a hynny ar ôl creu argraff ar y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, gyda rhai ysgolion yn ei drafod fel dosbarthiadau. 

'Rili shocked'

Mae Ysgol Bro Morgannwg wedi bod yn trafod misogony ac yn credu ei bod yn bwysig sicrhau lle i ddisgyblion drafod eu profiadau.  

“Odd un bachgen yn trafod Andrew Tate a oedd o jyst yn cael so defensive am ideas e a jyst yn rili bod yn negyddol,” meddai Katie.

“Roedd e yn Barri ac o’n i’n rili shocked yn clywed e oherwydd oedd e’n lle o’n i’n gwybod pawb a oedd pawb yn rhannu yr un ideas. Ond mae wedi dod mas a dweud bod Andrew Tate efo fair opinions mae’n rili weird.”

Yn ôl rhai o’r bechgyn hefyd, dylanwadau ar-lein yw’r brif ffactor.

“Mae rhai o ffrindiau fi bach fel defaid, dilyn be’ma‘ pobl yn dweud. Falle bo’ nhw’n clywed be’ ma’ nhw’n dweud ar-lein a cymryd e mewn i ystyriaeth a cytuno gyda be’ ma’ nhw’n dweud."

Yn ôl un athrawes, Lowri Jones, mae’r ysgol yn sicrhau bod gan ddisgyblion gyfle i drafod yr hyn mae nhw’n eu gweld neu glywed ar-lein.

“Mae  gwefannau cymdeithasol rili yn bwerus iawn mewn ffordd negyddol rili a ma’ hwnna yn anodd i ddadwneud a’n anodd i wybod be’ ma’ nhw’n ‘neud unwaith ma’ pum munud wedi tri wedi mynd ma’ nhw gytre a s’mo ni’n gwybod be ma’ nhw’n ‘neud," meddai Lowri Jones.

“Mae’r cyfnod yna o gynnal y sgwrs gyda disgyblion, bod nhw hefyd yn ymwybodol beth sy’n addas, beth sydd ddim yn addas.

“Mae angen mwy o arweiniad a dyna beth mae’r dirprwy yn gweithio arno gyda ni ar hyn o bryd yw cynnal y polisiiau yna mewn lle o ran shwt i ni’n delio gyda falle iaith neu ymddygiad misogynistic a mae’n rhywbeth yn sicr, nid jyst ni fel Ysgol, ond hefyd y Llywodraeth, mae angen mwy o fewnbwn yn fa’ na."

Problem ehangach

Ond yn ôl y cyn-ymgynghorydd addysg i Lywodraeth Cymru, Dewi Knight, nid yw pwyntio’r bys at blatfformau digidol yn unig yn deg a bod angen edrych ar y broblem yn ehangach.

“Fysen i bach yn ofalus wrth hyrwyddo prif ddadansoddiad Adolsence. Does dim wir lot o  dystiolaeth bod y ffynonellau ar-lein, y ‘Manosphere’ yn dangos taw dylanwadau traddodiadol, teuluol, diwyllianol, nhw sydd dal i fod y prif dylanwad ar y fath ymddygiad eithafol.

“Does ‘na ddim digon o wybodaeth yn cael ei gasglu ar beth sydd yn digwydd ar lawr gwlad. Felly ma’ angen sicrhau fod ’na ddealltwriaeth fod y data clir yno a o cael data clir o beth sydd yn digwydd, y defnydd o’r dechnoleg yma, pwy sydd yn ei ddefnyddio fe a pryd."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n cydnabod y materion "pwysig, pryderus" sy'n cael eu codi yn Adolescence, ac yn “croesawu'r drafodaeth”. 

Mae cefnogi plant a'r materion maen nhw'n eu hwynebu "yn hanfodol" yn ôl y llefarydd. "Byddwn yn mynd ati i barhau i gydweithio ag ysgolion i ddeall pa gefnogaeth bellach allwn ni ei gynnig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.