Newyddion S4C

15 o bobl wedi eu hachub wedi i gychod droi drosodd wrth rasio

17/04/2025

15 o bobl wedi eu hachub wedi i gychod droi drosodd wrth rasio

Fe gafodd 15 o bobl eu hachub oddi ar arfordir Gwynedd wedi i sawl cwch hwylio droi drosodd mewn cystadleuaeth rasio.

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a thimau achub Cricieth ac Abersoch eu galw i achub 15 o bobl a oedd mewn trafferth yn y dŵr ger Pwllheli toc wedi 14:30 ddydd Mercher.

Roedd y bobl yn rhan o gystadleuaeth ieuenctid genedlaethol y RYA a oedd yn cael ei gynnal gan Blas Heli.

Cafodd pawb eu hachub yn y diwedd, ond roedden nhw’n teimlo’n “oer iawn ac yn wlyb”, yn ôl llefarydd.

"Cafodd un anaf ei nodi - ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddi”.

Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau Cricieth rybuddio bod angen i bobl fod yn ofalus gyda’r tywydd gan ei fod yn gallu newid yn gyflym.

“Gwiriwch y rhagolwg ar gyfer y diwrnod cyfan y bwriadwch fod allan ynddo”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.