Profion 'arf anweledig' sy'n saethu dronau wedi eu cynnal yng Nghymru
Mae arf “anweledig” wedi llwyddo i saethu grŵp o ddronau i lawr mewn profion mewn gwersyll milwrol yng Nghymru.
Fe wnaeth milwyr lwyddo i “dargedu a niwtraleiddio” casgliad o ddronau gyda system arfog newydd sy’n saethu tonnau radio.
Cafodd y profion eu cynnal mewn gwersyll yng ngorllewin Cymru.
Dyma’r prawf ehangaf o’r system mae’r Fyddin wedi cynnal hyd yma.
Mae’r system wedi profi ei allu i “niwtraleiddio sawl targed ar yr un pryd a chael effaith ar unwaith,” yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD).
Mae’n defnyddio tonnau radio ag amledd uchel er mwyn amharu ar neu ddifrodi elfennau electronig o fewn dronau, gan achosi iddyn nhw i gamweithio.
Fe allai dargedu dronau sydd hyd at 1km i ffwrdd, ac fe allai gael ei ddefnyddio yn y dyfodol er mwyn diogelu gwersyll milwrol a meysydd awyr rhag dronau anhysbys.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Maria Eagle, bod y profion llwyddiannus yn “adlewyrchu cryfder arloesedd Prydeinig”.