'Cryn deimlad': Anrhydedd Oes i Peter Hughes Griffiths am ei gyfraniad i bêl-droed
Mae'n 'gryn deimlad' i gynghorydd sir a chyn-faer Caerfyrddin sydd wedi derbyn Anrhydedd Oes am ei gyfraniad i glwb pêl-droed y dref.
Mae Peter Hughes Griffiths wedi bod yn rhan allweddol o Glwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ers dechrau'r 70au.
Yn 85 oed ac yn gyn-faer y dref ac yn gynghorydd sir o hyd, mae angerdd Mr Hughes Griffiths at bêl-droed yma o hyd.
Mewn gêm ddiweddar gartref yn erbyn Trefelin, fe gafodd ei anrhydeddu â gwobr Anrhydedd Oes am ddegawdau o wasanaeth i'r clwb.
Dywedodd Mr Hughes Griffiths wrth Newyddion S4C: "Mae’n gryn deimlad eu bod nhw’n teimlo fel rhoi yr anrhydedd hwn i fi a deud y gwir. Do’n i ddim yn ei ddisgwyl achos bod pêl-droed yn rhan o’m mywyd i erioed, chwarae pêl-droed ers pan o’n i’n un bach a wedyn ar ôl dyddie pêl-droed pan oedd dyn yn methu chwarae, o’n i’n teimlo wedyn fel helpu ymhob ffordd a dyna sydd ‘di digwydd."
'Ysbrydoli'
Roedd sicrhau fod yna ddarpariaeth a chyfle i bobl ifanc gael y cyfle i chwarae pêl-droed yn yr ardal yn hollbwysig i Mr Hughes Griffiths.
"Fe ddes i i Gaerfyrddin yn 1972 a dim ond tîm oedolion oedd o gwmpas, a beth oedd i’w wneud ond helpu ymhob ffordd a dyna beth ydw i wedi bod yn ei wneud ac yn trio bryd hynny sefydlu rhywbeth doedd ddim ar gael ar gyfer pobl ifanc a phlant," meddai.
"Dyna fues i’n canolbwyntio arno oedd datblygu hynny yn ac o gwmpas tref Caerfyrddin.
"O’n i’n teimlo bod angen gwneud hynny a wedyn mi sefydles i Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Caerfyrddin felly rwy’n eitha balch i feddwl mewn ffordd o siarad fy mod i wedi ysbrydoli a symud y pethau hynny ymlaen ac unigolion yn dod drwyddo oherwydd ein bod ni wedi paratoi strwythur ar gyfer hynny iddyn nhw."
'Golygu llawer'
Ychwanegodd fod y clwb bellach yn mynd o nerth i nerth, gyda'r cyfleusterau ymysg y gorau o glybiau llawr gwlad Cymru, ac mae hyn yn destun balchder mawr iddo.
"O mae’n golygu llawer iawn achos y’n ni wedi datblygu yr adnoddau yma sydd gyda’r adnoddau nawr gore o glybie fel hyn yng Nghymru gyfan," meddai.
"Ma’ ‘na eisteddle sy’n dal 1,000 o bobl, ystafelloedd newid bendigedig gyda ni gyda dwy ystafell ar gyfer dyfarnwyr, llif-oleuadau a chae 4G a mae’n bleser i fi weld gymaint o bobl yn defnyddio hwnnw dydd a gyda’r hwyr a dydd Sadwrn, yr holl gemau ac ymarfer, bobl ifanc, bechgyn a merched sydd wrthi’n ymarfer yn ogystal â chwarae."