Gwahardd fêps tafladwy: 'Effaith bach' yn unig
Mae’n bosib mai dim ond “effaith bach” y bydd gwahardd fêps tafladwy yn ei gael ar nifer y bobl sydd yn defnyddio e-sigaréts.
Yn ôl astudiaeth gan academwyr o Brifysgol Coleg Llundain (UCL), ers cyhoeddi’r gwaharddiad mae pobl wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio fêps tafladwy.
Mae mwy o bobl yn dewis dyfeisiau sydd yn gallu cael eu defnyddio fwy nag unwaith neu eu hail-lenwi.
Maent hefyd yn rhybuddio y gallai “polisïau mwy llym” o safbwynt defnyddio fêps olygu y bydd pobl yn peidio eu defnyddio er mwyn stopio smocio.
Fis Ionawr y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gynlluniau i wahardd fêps tafladwy. Mae’r mesur yn dod i rym ar y 1 Mehefin ar draws y DU.
Mae’r mesur hefyd yn cynnwys pwerau i gyfyngu o bosib ar y ffordd maent yn cael eu marchnata, eu pacedu a blasau e-sigaréts.
Ar gyfer yr astudiaeth fe wnaeth yr ymchwilwyr edrych ar ddata arolwg oedd wedi ei gasglu rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2024. Roedd dros 88,000 o bobl o Gymru, Lloegr a’r Alban wedi ymateb.
Yn ystod y ddwy flynedd roedd cyfraddau fêpio ymhlith y rhai 16 oed a hŷn wedi cynyddu o 8.9% i 13.5%.
Ond ar ôl cyhoeddi’r gwaharddiad roedd cwymp yn y nifer oedd yn defnyddio e-sigaréts tafladwy ym mhob grŵp oedran. Roedd y cwymp yn fwy serth ymhlith y rhai 16-24 oed- o 63% i 35%.
Mae’r defnydd o fêpio yn gyffredinol wedi arafu rhwng Ionawr 2024 ac Ionawr 2025.