Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law i Gymru gyfan

cymru tywydd.png

Bydd rhybudd melyn am law mewn grym i Gymru gyfan ddydd Mawrth, gan ddod â'r cyfnod o dywydd braf diweddar i ben.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi y bydd y rhybudd mewn grym o 12:00 ddydd Mawrth tan 12:00 ddydd Mercher.

Mae disgwyl i gyfnodau o law trwm a chyson ymledu o'r gogledd, gan symud ar draws y wlad, gyda rhwng 20 a 40mm o law yn debygol o ddisgyn.

Gall rhai ardaloedd brofi rhwng 50 a 7am 5mm o law yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, gydag oedi yn bosibl i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.