Yr Academi Frenhinol Gymreig yn rhybuddio y gallen nhw orfod cau eu drysau

Mae’r Academi Frenhinol Gymreig wedi rhybuddio y gallen nhw orfod cau drysau eu horiel yn nhref Conwy o fewn misoedd oherwydd diffyg nawdd.
Mae’r sefydliad celfyddydol wedi bod ar agor ers 140 o flynyddoedd, ond mae bellach yn wynebu cau oherwydd costau uwch a diffyg cyllid.
Dywedodd y sefydliad annibynnol nad oedden nhw wedi llwyddo i gael arian gan Gronfa Gwydnwch Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Fel mae pethau ar hyn o bryd, fe fyddwn ni’n bodoli fel academi, ond o ran yr adeilad ei hun, fe allen ni fod yn edrych ar bedwar mis yn unig cyn gorfod cau ein drysau,” meddai Glen Farrelly, un o ymddiriedolwyr yr Academi Frenhinol Gymreig.
“Rydyn ni wedi colli allan ar nawdd oedden ni wedi gobeithio ei gael, ond rydyn ni’n bositif iawn.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen, rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar ffordd ymlaen, a gobeithio y bydd modd achub yr adeilad hanesyddol hwn.
“Mae angen i ni gadw’r lle yma i fynd. Mae angen i ni aros yn berthnasol. Mae angen i ni aros ar agor.
“Rydyn ni angen i bobl allu dod ag ymweld â’r sefydliad yma.”
Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod nhw wedi cwrdd â’r Academi Frenhinol Gymreig i drafod sut allen nhw helpu yn y tymor byr ac yn yr hir dymor.
Sefydlwyd yr Academi Gelf Gymreig gan grŵp o artistiaid oedd yn frwdfrydig am dirlun gogledd Cymru yn 1881, ac fe gafodd y teitl 'Frenhinol' gan y Frenhines Fictoria flwyddyn yn ddiweddarch.