‘Rwy’n edrych yn ôl efo gwên’: Ymddeol o redeg siop lyfrau yn Y Bala ar ôl 35 mlynedd
Mae Gwyn Siôn Ifan yn ymddeol o redeg siop lyfrau Awen Meirion ar stryd fawr Y Bala ar ôl 35 mlynedd wrth y llyw.
Dechreuodd reoli’r siop yn 1990 a dywedodd fod ganddo “atgofion melys iawn o gyfarfod a phobl a chydweithio gydag awduron a chyhoeddwyr”.
“Dwi di bod yn lwcus ar hyd y blynyddoedd a mod i ‘di neud beth dwi ‘di neud," meddai.
“Mae ‘di bod erioed yn siop gymunedol groesagwgar ac i’r gymuned mae’r diolch am hynny o ddydd i ddydd trwy’r blynyddoedd.
"Un o’r uchafbwyntiau dros y blynyddoedd ‘da ni wedi cyflogi dros 400 o blant i werthu ein cyfansoddiadau ni ar faes y Steddfod.
“Mae ‘di bod yn brofiad cyfarfod gymaint o bobl o Gymru a thu hwnt.
“Mae ‘di bod yn braf cydweithio gydag awduron a chyhoeddwyr. Yn bendant yr un cofiadwy oedd sesiwn gyda’r enwog Dai Jones.
"Y gwerthiant yn anhygoel a’r siop yn llawn dop a llinell hir iawn iawn o bobl yn disgwyl a chael sgwrs yn adlewyrchiad o gynhesrwydd Dai."
Inline Tweet: https://twitter.com/PrynhawnDaS4C/status/1910710028002115730
'Ffresni'
Rhian Williams, sydd wedi cydweithio gyda Gwyn am 15 mlynedd, fydd yn cymryd dros yr awenau fel rheolwr newydd y siop.
Dywedodd: “Rwy’ wedi cydweithio gyda Gwyn am flynyddoedd ac yn edrych ymlaen at gymryd yr awenau.
“Mae’n gyfnod cyffrous. Mae’n siop fach ond mae calon enfawr iddi ac yn ganolfan pwysig iawn ar stryd fawr Y Bala ac yn gymdeithas yn ei hun. Dwi’n gofyn am dips gan Gwyn bob munud.”
Ychwanegodd Gwyn Siôn Ifan: “Mae ganddi syniadau da i gario’r gwaith ymlaen . Mi fydd ganddi syniadau newydd i gynnal y busnes. Mae’n wyneb newydd, ffresni a syniadau da a dyna beth sydd angen.
“Rwy’n edrych yn ôl efo gwên, dwi wedi mwynhau fy hun a mwynhau mynd i’r gwaith a chyfarfod pobl.
“Mae ‘na ddigon o fynyddoedd o’n cwmpas i gerdded a phan mae dyn yn y gwaith dy’w e ddim yn sylweddoli beth sydd ar ei stepen ddrws.”