
Bariau yn dychwelyd i'r sgrin fach am ail gyfres wedi 'ymateb anhygoel'
Bydd y ddrama garchar boblogaidd Bariau'n dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres nos Sul, gan fynd â gwylwyr tu ôl i ddrysau Carchar y Glannau.
Yn dilyn llwyddiant y gyfres ddiwethaf, mae cynhyrchydd ac awdur y ddrama wedi dweud eu bod yn gobeithio denu cynulleidfa eang eto eleni.
Mae awdur Bariau, Ciron Gruffydd, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at gyfrannu i’r ffordd y gallai cynulleidfaoedd ehangach “weld ni yng Nghymru” gyda’r gyfres.
“Dwi’n meddwl bod hynny’n beth cyffrous… Bod ti’n medru mynd a’r dramâu yma allan i’r byd, ac wedyn bod nhw’n dysgu am yr iaith a’r diwylliant sydd gennym ni yma yng Nghymru.
“Roedd yr ymateb i’r gyfres gynta’n anhygoel,” meddai.
“Ar hyd y daith, ar gyfer cyfres un roedd fy hyder yn tyfu rhywfaint, ac ro’n i’n meddwl ‘o, mae’r rhain i gyd yn ei gael o’.
“Roedd pethau wedi gweithio allan yn dda, a bod hynny wedi dod allan ar y sgrin hefyd.”

'Cynrychioli profiad Cymry cyfoes'
Mae’r ddrama, sydd wedi’i seilio’n fras ar garchar y Berwyn yn Wrecsam, wedi’i lleoli mewn carchar i ddynion – gyda’r straeon wedi’u seilio ar brofiadau a thystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Alaw Llewelyn Roberts: “Mae’n lleoliad unigryw yn y ffaith fod o ddim yn bell o’r ffin, ac mae gennych chi bobl yn bwydo i mewn o Lerpwl a Manceinion a ballu.
“Mae o’n cynrychioli profiad bobl Cymraeg yn mynd i garchar, a mynd i garchar cyfoes hefyd, yn hytrach na’r rhai Fictorianaidd.
“Mae’n cynrychioli profiad Cymry cyfoes tasan nhw’n mynd i garchar,” ychwanegodd.
Fe fydd sawl wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i’r ail gyfres, gan gynnwys Barry Hardy, y prif gymeriad, sy’n cael ei bortreadu gan Gwion Tegid.
Dywedodd Gwion: “Roedd saethu’r ddwy gyfres yn gymaint o bleser; heb os y gwaith mwyaf boddhaol i mi wneud hyd yn hyn a fedra i ddim disgwyl i weld yr ymateb i'r ail gyfres.”
Yn ystod yr ail gyfres bydd modd gweld beth fydd hanes ei gyd-garcharor Peter (Glyn Pritchard), y Swyddog Carchar Ned (Rolant Prys), a Linda, Caplan y carchar (Mali Tudno) hefyd.

Yn ymuno â’r cast bydd Sion Alun Davies (Craith, Steeltown Murders, The Sandman) yn actio cymeriad Simon, y Prif Swyddog Carchar ciaidd, Alicia Forde (Waterloo Road), a Rhys Richards (Cylch Gwaed, A55).
Cymeriad arall newydd yw Jac, carcharor awtistig, sy’n cael ei chwarae gan Wiliam Young.
Bydd modd gwylio pennod gyntaf y gyfres newydd ar S4C am 21.00 nos Sul a bydd modd i’w ffrydio ar BBC iPlayer ac S4C Clic.
Fe fydd pennod gyntaf Bariau yn cael ei darlledu eto am 21.00 nos Fercher gydag is-deitlau Saesneg.