Newyddion S4C

'Gallai rhaglenni fel Game of Thrones roi hwb i economi Conwy'

10/04/2025
Castell Conwy ac Iwan Rheon

Gallai sefydlu "swyddfa ffilm" newydd o fewn Cyngor Sir Conwy roi hwb i’r ardal fel lleoliad ffilmio ar gyfer rhaglenni Netflix a HBO fel Game of Thrones, meddai adroddiad gan y cyngor.

Mewn cyfarfod cabinet yr wythnos hon, fe gafodd Strategaeth Digwyddiadau a Ffilm Corfforaethol Conwy 2025-2030 y cyngor ei chyflwyno i gynghorwyr.

Fe gafodd y strategaeth ei chyflwyno gyntaf yn 2009 ond mae'r fersiwn diweddaraf yn cynnwys strategaeth ffilm am y tro cyntaf.

Clywodd cynghorwyr bod Conwy wedi derbyn dros 70 o ymholiadau ffilmio dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y gobaith yw y bydd y swyddfa ffilm newydd yn symleiddio'r broses ar gyfer cwmnïau teledu a ffilm sydd am ddefnyddio'r sir fel lleoliad.

Dywedodd yr adroddiad: "Mae agosrwydd y sir at y prif ganolfannau cynhyrchu ffilm a theledu ym Manceinion a Lerpwl yn cyflwyno cyfleoedd i fynd i’r afael â lefelau uwch o ffilmio ar leoliad yn y sir, ynghyd â’r gwariant sylweddol sydd gan unedau ffilm.

"Mae anghenion tebyg unedau ffilm a digwyddiadau mawr yn golygu bod cynnwys gwasanaeth swyddfa ffilm fel rhan greiddiol o’n cymorth digwyddiadau yn benderfyniad amlwg.

"Mae mabwysiadu un pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau ffilmio yn gwneud gweithio gyda Chonwy yn haws i reolwyr lleoliad yn ogystal â lleihau’r baich gweinyddol o ymholiadau ffilm i swyddogion mewn ystod o adrannau."

'Hollywood by the sea'

Fe wnaeth cynghorwyr gefnogi’r cynlluniau ar ôl i’r Cynghorydd Dilwyn Roberts gyflwyno’r adroddiad.

Dywedodd Adrian La Trobe, pennaeth rheoli digwyddiadau Cyngor Sir Conwy: "Mae lleoliadau ffilmio’r sir wedi dod yn gynyddol boblogaidd gyda chwmnïau cynhyrchu - rydym wedi cael 70 o ymholiadau gan gwmnïau ffilm ar gyfer ffilmio yn y sir o fewn y 12 mis diwethaf.

"Nid yw’r holl ymholiadau ffilm rydyn ni’n mynd i’w cael yn y sir yn mynd i fod yn gynyrchiadau cyllideb uchel gan Netflix neu HBO.

"Ond bob tro mae cwmni ffilm yn dod i mewn i’r sir, rydyn ni’n cael sylw am ddim ac yn hyrwyddo ein hardal ar gyfer twristiaeth.

"Hyd yn oed os mai dim ond Four in a Bed neu Escape to the Country neu raglenni o’r fath na fydden ni’n gallu fforddio eu prynu fel hysbysebion."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, y gallai'r sir fod yn "Hollywood ger y môr".

"Mae’r diwydiant ffilm yng Ngogledd Iwerddon yn sbardun enfawr i dwristiaeth, gyda thaith Game of Thrones ac ati," meddai.

"Ac o ystyried ein hagosrwydd at Fanceinion, sef yr ail ganolfan gelfyddydau fwyaf yn y DU, mae cyfle gwirioneddol i dyfu hynny - mae’n swyddi lleol, ac mae’n cyfrannu at dwristiaeth yn fawr."

 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.