'Gobeithiol': Adfer tai yn Arfon a gafodd eu difrodi gan gynllun insiwleiddio
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith adfer ar dai yn Arfon sydd wedi eu difrodi gan gynllun insiwleiddio.
Dywedodd Aelod Senedd Arfon, Siân Gwenllian, ei bod yn "obeithiol" wedi ymgyrch degawd o hyd i helpu'r rhai a gafodd eu heffeithio gan gynllun Arbed.
Rhaglen o gynlluniau effeithlonrwydd ynni gan Lywodraeth Cymru yw Arbed sy'n seiliedig ar ardaloedd penodol.
Bwriad y rhaglen yw gwneud gwelliannau i gartrefi mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae teuluoedd yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd.
Ond fe gafodd y cynllun ei feirniadu'n chwyrn ar ôl i "waith ôl-osod oedd wedi’i reoli’n wael" adael rhai cartrefi wedi’u difrodi ac yn llaith.
Roedd Siân Gwenllian wedi ceisio cael atebion i drigolion Arfon ar ôl i "atebolrwydd" am y gwaith yma fod yn "araf".
'Golau ar ddiwedd y twnnel'
Nawr, mae Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith adfer.
Fe gadarnhaodd mewn llythyr i Siân Gwenllian y byddai'r gwaith ar 42 eiddo yn Arfon sydd wedi methu ag inswleiddio waliau allanol yn dilyn proses adolygu.
Fel man cychwyn, bydd trigolion yn derbyn llythyrau ym mis Ebrill gyda rhagor o fanylion am y gwaith.
Er hynny, mae Ms Bryant wedi rhybuddio yn y llythyr y gallai'r gwaith "gymryd peth amser".
"Mae ein profiad o brosiectau tebyg yng Nghaerau a Bryn Carno wedi dangos y gallai’r gwaith hwn gymryd peth amser," meddai.
"Rwy’n deall y bydd trigolion yn awyddus i’r gwaith gael ei gwblhau’n gyflym, ond mae amserlenni yn dibynnu’n fawr ar y tywydd."
Bydd hefyd yn "hanfodol tynnu’r hen inswleiddiad, gosod awyru a sicrhau bod y waliau wedi sychu cyn gosod yr inswleiddiad newydd a gorffen y gwaith".
"Bydd methu â gwneud hynny’n peryglu problemau llwydni a lleithder pellach yn y dyfodol," ychwanegodd.
Mewn ymateb, dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn "dawel optimistaidd".
"Mae hon wedi bod yn ymgyrch hir a rhwystredig, ond rwyf wedi parhau’n benderfynol o gael cyfiawnder i’m hetholwyr yn Arfon," meddai.
"Mae’n swnio fel bod yna olau ar ddiwedd y twnnel, ond byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos â’r trigolion i sicrhau bod y gwaith yn digwydd ac o’r safon uchaf."
"Cawsant eu siomi ar ôl rhoi ffydd mewn cynllun oedd i fod i wella eu cartrefi dim ond i’r eiddo gael ei adael mewn cyflwr gwaeth nag oedd ar y dechrau."