Teyrnged i ddyn 25 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llanelli
Mae teulu dyn 25 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llanelli wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Aron Sinclair o Rydaman mewn gwrthdrawiad ar yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan yr amlosgfa yn Llanelli, tua 22.50 ar 2 Ebrill.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth bod ail berson hefyd bellach wedi marw o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Wrth roi teyrnged i Mr Sinclair dywedodd ei deulu: “Ry’n ni fel teulu wedi ein dinistrio wrth golli Aron - mab, brawd, nai ac ŵyr cariadus.
“Dim ond newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed oedd Aron ar y diwrnod cyn y gwrthdrawiad, dydd Mawrth Ebrill 1.
“Mae colli mor sydyn aelod mor werthfawr o’r teulu wedi torri ein calonnau ni.”
Apêl
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y cerbydau BMW a Peugeot 208, tua 22.50 ar 2 Ebrill, ar ffordd yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan yr amlosgfa yn Llanelli.
Bu farw gyrrwr y BMW ar y pryd, ac roedd gyrrwr y Peugeot mewn cyflwr difrifol.
Bellach, mae'r heddlu wedi cadarnhau i yrrwr y car Peugeot farw mewn ysbyty ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill.
Mae’r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.