Newyddion S4C

Caerdydd: Tri'n pledio'n ddieuog i dwyll honedig mewn coleg chweched dosbarth

08/04/2025
Coleg

Mae tri o bobl wedi pledio’n ddieuog mewn cysylltiad â thwyll honedig gwerth miliynau o bunnoedd mewn coleg chweched dosbarth blaenllaw yng Nghaerdydd.

Mae dau ddyn a dynes yn wynebu nifer o gyhuddiadau mewn cysylltiad ag anghysondebau ariannol yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd rhwng 2012 a 2016.

Ymddangosodd Yasmin Anjum Sarwar, 43, o Gyncoed, Caerdydd, Nadeem Sarwar, 48, o Bentwyn, Caerdydd a Ragua Sivapalan, 39, o Ben-y-lan, Caerdydd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.

Roedd Mr a Mrs Sarwar ill dau wedi gwadu naw honiad o dwyll a lladrad gwerth mwy na £5 miliwn.

Plediodd Sivapalan yn ddieuog i gyfrifo ffug rhwng 2013 a 2016.

Fe anfonodd Wayne Mortimer, y prif ynad, yr achos i Lys y Goron Caerdydd ar gyfer gwrandawiad cyn treial.

Dywedodd wrth y llys: “Bydd yr achosion y tri unigolyn yn cael ei ohirio tan Fai 6 yn Llys y Goron Caerdydd am 9:00 yn y bore.”

Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth, gydag amod na ddylai Mr a Mrs Sarwar gysylltu â'i gilydd.

Mae'r coleg, ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 ag 18 oed, yn cofnodi rhai o'r canlyniadau Safon Uwch uchaf yn y wlad yn rheolaidd.

Yn 2016, roedd yn destun rhaglen ddogfen gan y BBC o'r enw Britain’s Brainiest School.

Mae'r coleg wedi newid perchnogaeth ers y twyll honedig, gyda'r elusen a fu'n ei oruchwylio'n flaenorol bellach yn cael ei galw'n Cardiff Educational Endowment Trust, gan weithredu fel elusen sy'n rhoi grantiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.