Newyddion S4C

Neil Foden: Adroddiad ‘wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd’

Newyddion S4C 08/04/2025

Neil Foden: Adroddiad ‘wedi ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd’

Video Player is loading.
Current Time 0:00
Duration 0:00
Loaded: 0%
Stream Type LIVE
Remaining Time 0:00
 
1x
    • Chapters
    • descriptions off, selected
    • subtitles off, selected

      Mae Newyddion S4C yn deall fod swyddogion Cyngor Gwynedd wedi derbyn un o’r adroddiadau yn ymwneud ag achos y pedoffeil Neil Foden, ond nad ydyn nhw am gyhoeddi casgliadau am y tro.

      Mae’r adroddiad yn ymateb i benderfyniad swyddogion y cyngor i beidio cynnal ymchwiliad ar ôl i bryderon gael eu codi am y cyn-bennaeth yn 2019.   

      Mae Newyddion S4C wedi gweld e-bost gafodd ei anfon at gynghorwyr Gwynedd. Mae hwnnw’n egluro bod yr adroddiad yn cynnwys "gwybodaeth sensitif" a bod angen mwy o "gyngor cyfreithiol arbenigol" i "sefydlu'r hyn sy'n gyfreithlon i'w ryddhau ymhellach."

      Mae rhai cynghorwyr, sydd ddim am i ni gyhoeddi eu henwau, yn poeni ei bod hi’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl i gyhoeddi’r canfyddiadau ac nad ydi’r cyngor yn gwireddu’r addewid i ymateb yn “gyflym” i “bob casgliad”.

      Pam fod digwyddiadau 2019 yn allweddol?

      Y barnwr Rhys Rowlands ddechreuodd y drafodaeth, drwy ddweud yn ystod yr achos llys ei bod hi’n peri “pryder mawr” iddo nad oedd “ymchwiliad ffurfiol” wedi ei gynnal gan y cyngor i bryderon am ymddygiad Foden, a bod hynny, o bosibl wedi ei "annog" i barhau i droseddu.

      Yn ystod yr achos llys y llynedd fe glywon ni fod uwch-athro wedi rhannu pryder hefo cyfarwyddwr addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, am agosatrwydd Foden at rai merched ifanc. Wrth roi tystiolaeth, fe ddywedodd y cyn-gyfarwyddwr addysg Garem Jackson fod uwch swyddog amddiffyn diogelu plant wedi dweud wrtho nad oedd angen ymchwiliad, am nad oedd unrhyw gyhuddiad swyddogol wedi ei wneud.

      Rydym ni’n deall bod pedwar o staff y cyngor yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio, a bod tri yn dal i gael eu cyflogi gan Gyngor Gwynedd.

      Fe wnaethon ni ofyn i Gyngor Gwynedd pam nad oedd modd i’w hadran gyfreithiol fewnol ddelio â chasgliadau’r bargyfreithiwr i ddigwyddiadau 2019?

      Mewn ymateb drwy ddatganiad, fe ddywedodd y cyngor mai eu blaenoriaeth bob amser ydi’r effaith posib ar y dioddefwyr. Fe ychwanegon nhw mai barn y bwrdd “Rhaglen Ymateb” ydi cael  “barn gyfreithiol gan arbenigwyr annibynnol” am be sy’n “briodol ac yn gyfreithlon i’w gyhoeddi”,  gan obeithio derbyn yr arweiniad hwnnw “cyn gynted ag sy'n bosib.” 

      Yn gyffredinol, mae rhai sefydliadau cyhoeddus yn dewis troi at gyngor cyfreithiol allanol i ddelio ag ymchwiliadau mewnol sensitif – ac fe all fod yn gostus. Yn ôl Owen John, cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyflogaeth:

      “Ar y cyfan fe fyddai bargyfreithiwr yn y modd hynny yn delio gyda mater fel hyn fesul yr awr, neu fesul y dydd. Felly po fwyaf ydi yr amser sy’n cael ei dreulio ar archwiliad, y mwya’ fydde’r gost.

      “Os wyt ti’n mynd i fynd at fargyfreithiwr yn Llundain am waith fel hyn... Dwyt ti ddim yn mynd i fod yn edrych ar broses rad o gwbl.”

      Image
      Owen John
      Y cyfreithiwr Owen John

      Adolygiad Ymarfer Plant

      Yn syth ar ôl i reithgor gael Foden yn euog, fe gafodd Adolygiad Ymarfer Plant ei gyhoeddi i weld pa wersi oedd i’w dysgu.

      Fe fydd cadarnhad yn ystod yr wythnosau nesa pryd fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn llawn. Mae disgwyl i hynny fod yn yr haf. 

      Mae tîm yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi gweld copi o adroddiad annibynnol y bargyfreithiwr Genevieve Woods, ac yn dweud y bydd y ffeithiau sy’n y ddogfen “yn eu helpu i adnabod digwyddiadau allweddol.”

      Dydi’r Comisiynydd Plant ddim wedi gweld adroddiad y bargyfreithiwr, ond yn cydnabod, oherwydd natur y mathau hyn o adroddiadau y byddai angen “ceisio eglurhad cyfreithiol am yr hyn y gellir ei gyhoeddi”.

      Newyddion diweddaraf

      Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.